Caerdydd yn ddinas ‘ranedig’ meddai adroddiad newydd ar dlodi
Mae Caerdydd yn ddinas “ranedig” gyda fawr o newid i ba rannau o’r ddinas sy’n gyfoethog a pha rannau sy’n ddioddef o dlodi dros y 15 mlynedd diwethaf yn ôl adroddiad newydd.
Mae'r adroddiad gan y felin drafod Centre for Cities yn dweud nad yw’r math o welliannau i lefelau tlodi sydd wedi eu gweld ynghanol Llundain a Manceinion wedi eu gweld yng Nghaerdydd.
Mae “Caerdydd yn ddinas ranedig sydd wedi gweld ychydig iawn o newid", gydag amddifadedd a chyfoeth ill dau yn gymharol sefydlog rhwng 2011 a 2025, medden nhw.
Serch hynny, roedd Caerdydd yn un o’r ychydig ddinasoedd lle’r oedd tlodi yn y maestrefi (suburbs) wedi syrthio dros y cyfnod dan sylw.
Roedd ardaloedd gan gynnwys Trelái, Tre Biwt ac Y Sblot ymysg y mwyaf difreintiedig tra bod eraill oedd ymhellach o ganol y ddinas gan gynnwys Llandaf, yr Eglwys Newydd a’r Rhath yn fwy cefnog.
Mae'r adroddiad yn nodi bod dinasoedd yn cynnwys dwy ran o dair o gymdogaethau mwyaf difreintiedig y DU.
Mae amddifadedd yng nghanol dinasoedd wedi gostwng yn genedlaethol, ond roedd y tuedd hwnnw yn cael ei yrru'n bennaf gan nifer fach o ddinasoedd mawr, yn enwedig Llundain.
'Gweithredu ar addewidion'
Mae Pennaeth Polisi (Tlodi) Sefydliad Bevan yn dweud bod yr adroddiad yn dangos bod tlodi yn parhau i fod yn broblem yng Nghymru.
Dywedodd Mabli Jones bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar eu polisi tlodi plant er mwyn achosi newid.
"Mae'r adroddiad yma yn dangos unwaith eto bod tlodi yn broblem ym mhob un o gymunedau Cymru," meddai wrth Newyddion S4C.
"Caerdydd yw'r awdurdod lleol yng Nghymru sydd gyda'r nifer mwyaf o blant yn byw mewn tlodi, mae'n rhaid i hyn newid.
"Mae'r flaenoriaeth mae llywodraeth newydd Cymru wedi rhoi i fynd i'r afael a thlodi plant i'w croesawu, ond mae'r adroddiad yma yn ein hatgoffa pan ei fod mor bwysig ei bod yn gweithredu ar ei addewidion."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "darparu arweinyddiaeth newid" er mwy cyflawni "newid pendant" yng Nghymru.
"Rydyn ni’n darparu arweinyddiaeth newydd i gyflawni newid pendant ar wir flaenoriaethau pobl Cymru.
"Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â thlodi plant a helpu teuluoedd gyda chostau byw drwy gyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU, datblygu Cynnal a datblygu cynllun newydd i fynd i'r afael â thlodi plant gyda thargedau clir.
"Wrth i ni wneud yr achos dros ddatganoli pwerau dros y wladwriaeth les, byddwn yn gweithio i wella System Fudd-daliadau presennol Cymru, gan ei gwneud hi'n haws i bob cartref cymwys dderbyn y cymorth y mae ganddynt yr hawl iddo."