Hyfforddwr Cymru Rhian Wilkinson yn arwyddo cytundeb newydd dwy flynedd

Rhian Wilkinson

Mae Prif Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol Menywod Cymru, Rhian Wilkinson, wedi arwyddo cytundeb newydd o ddwy flynedd. 

Bydd yr estyniad yn golygu bydd Wilkinson yn arwain y tîm drwy ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd Menywod UEFA 2027 ac ymgyrch UEFA EWRO Menywod 2029. 

Fe gafodd Rhian Wilkinson ei phenodi ym mis Chwefror 2024.

Yn ystod ei blwyddyn gyntaf fel Prif Hyfforddwr y tîm gyraeddodd Cymru ei pencampwriaeth rhyngwladol menywod cyntaf erioef sef UEFA EWRO Menywod 2025.

“Rwy’n hynod falch i gael y fraint o rheoli Cymru am ddwy flynedd arall, ac rwy’n gyffrous iawn i fynd â’r tîm yn bellach ar ei daith,” meddai Rhian Wilkinson.

“Mae gennym grŵp arbennig o chwaraewyr sy’n haeddu bod mewn pencampwriaethau rhyngwladol, yn ogystal â sêr am y dyfodol a fydd mewn cyfnod allweddol o’u datblygiad dros y blynyddoedd nesaf. 

“Rwy’n edrych ymlaen i’r Wal Goch weld y tîm yn datblygu ymhellach dros y blynyddoedd nesaf, a hoffwn ddiolch i GBDC am roi’r cyfle imi barhau gyda fy ngwaith.” 

‘Balch’

Daw’r estyniad cytundeb yn dilyn “dechreuad cryf” i ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027, meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Bydd Cymru, sydd ar hyn o bryd yn ail yng Ngrŵp B1, yn wynebu Montenegro ym Mhodgorica (dydd Gwener 5 Mehefin) a Czechia yn Stadiwm Dinas Caerdydd (dydd Mawrth 9 Mehefin) ar gyfer gemau olaf y grŵp. 

Dywedodd Prif Weithredwr CBDC, Noel Mooney, ei lawenydd am y newyddion hefyd ei fod yn “falch iawn bod Rhian wedi cytuno i ymestyn ei chyfnod”.

 “Ar ôl y llwyddiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym yn edrych ymlaen i weld sut mae Rhian a’r tîm yn datblygu ymhellach wrth inni geisio cyrraedd mwy o bencampwriaethau rhyngwladol a thyfu’r gêm merched a menywod ledled Cymru.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.