Apêl o'r newydd am leoliad dyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth yng Nghaerdydd
Mae'r awdurdodau yn apelio o'r newydd am wybodaeth am ddyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn arall yng Nghaerdydd yn 2010.
Yn ôl Heddlu De Cymru mae swyddogion yn parhau i chwilio am Mohammed Ali Ege yn achos llofruddiaeth Aamir Siddiqi yn y brifddinas.
Mae elusen Taclo'r Taclau wedi apelio o'r newydd am wybodaeth fydda'i arwain at arestio Ege, gan gynnig £10,000 am wybodaeth fyddai'n arwain at hynny.
Bu farw Aamir Siddiqi yn 17 oed yn ei gartref ar Ffordd Ninian, y Rhath, ar 11 Ebrill 2010 ar ôl cael ei drywanu nifer o weithiau.
Er bod dau ddyn wedi eu cael yn euog o'i lofruddio, ac wedi derbyn dedfrydau gydol oes, mae'r heddlu wedi eu hymrwymo i ddod o hyd ag arestio Ege medd swyddogion.
Roedd Ege, sy'n 46 oed, wedi ffoi i India cyn cael ei arestio.
Cafodd ei arestio yn y wlad honno yn 2013 ond fe lwyddodd i ddianc o'r ddalfa.
Nid oes gwybodaeth bellach am ei union leoliad ond dywed yr heddlu y byddai unrhyw wybodaeth am ei leoliad yn cael ei anfon iddynt yn syth.