Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun peilot taliadau tlodi plant o fewn tri mis
Fe allai llywodraeth newydd Cymru gyflwyno cynllun peilot uchelgeisiol yn y misoedd nesaf fyddai'n ceisio mynd i'r afael â thlodi plant.
Byddai cynllun Cynnal yn cynnig £10 yr wythnos i deuluoedd 15,000 o blant o dan chwech oed, ac mae'n debyg i gynllun sydd mewn grym yn barod yn yr Alban - sef Taliad Plant yr Alban.
Er mwyn derbyn y cymorth byddai angen i un rhiant fod yn derbyn Credyd Cynhwysol.
Mae gwaith ymchwil gan Sefydliad Joseph Rowntree yn awgrymu mai'r Alban yw'r unig ran o'r DU lle mae disgwyl y bydd cyfraddau tlodi plant yn gostwng erbyn 2029, a hynny o ganlyniad i'r cynllun sydd yn bodoli yno.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams, y byddai'r gwaith o sefydlu cynllun peilot Cynnal yn digwydd yn syth.
"Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn gweithio arno'n syth er mwyn deall sut y byddai'n edrych, lle byddai orau i gynnal y cynllun peilot, er mwyn cael y gwerthusiad cywir yna a'i effaith."
Gweithredu
Pan ofynnwyd iddi a fyddai disgwyl i'r llywodraeth gadarnhau y byddai'r cynllun newydd yn cael ei weithredu o fewn 100 diwrnod cyntaf y llywodraeth mewn grym, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog mai dyna oedd y bwriad.
"Rydym am ei gynllunio - rydym wedi dweud ein bod am wneud hynny o fewn y 100 niwrnod cyntaf, ac yna bod mewn sefyllfa i'w weithredu."
Mae gan Lywodraeth Cymru lai o rymoedd dros fudd-daliadau o gymharu gyda Llywodraeth yr Alban ac felly fe fyddai angen i Lywodraeth San Steffan a'i Hadran Waith a Phensiynau gytuno i unrhyw newidiadau.
Dywedodd Sioned Williams: "Bydde'n rhaid i hwnnw fod yn gwestiwn iddyn nhw. Os allwn ni brofi fod hwn yn gam llwydiannus, fel yr ydym wedi ei weld yn yr Alban i ostwng y lefelau tlodi plant yna... fe fydde ni wedyn yn gwneud yr achos am fwy o rymoedd er mwyn cyflwyno hyn tu hwnt i gynllun peilot, bydde ni'n cymryd y dystiolaeth sydd ganddo ni, tystiolaeth sydd yn amlwg yn barod o'r Alban - bydde modd i ni ddangos yr effaith y mae wedi ei gael, ac yna dadlau bod angen y grymoedd hynny."
Cadarnhaodd y byddai modd i Lywodraeth Cymru redeg y cynllun peilot ond fe fyddai angen sêl bendith San Steffan er mwyn gwneud y cynllun peilot yn gynllun parhaol.
"Mae rhain yn gwestiynau y bydd angen i ni eu harchwilio", ychwanegodd.
Dywed maniffesto Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad y byddai cynllun peilot Cynnal "yn cael ei gyflwyno i ddechrau mewn nifer cyfyngedig o ardaloedd awdurdodau lleol, a fydd yn cael eu dewis gan ddefnyddio meini prawf gwrthrychol fel rhan o ddyluniad y cynllun peilot.
"Bydd y cynllun peilot yn cael ei ddefnyddio i adeiladu sylfaen dystiolaeth gadarn ac i lywio’r gwaith o gyflwyno’r taliad ledled Cymru."