Llywodraeth Cymru yn cadarnhau cynnydd o 1.75% i gyflogau athrawon
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, wedi cyhoeddi y bydd athrawon yng Nghymru yn derbyn codiad cyflog.
Bydd cynnydd o 1.75% yn cael ei ychwanegu ar ben cyflogau athrawon, gyda'r taliadau cyntaf yn cael eu hôl-ddyddio o 1 Medi.
Daw hyn yn dilyn argymhelliad ar gyflog athrawon gan banel annibynnol a wnaeth nodi y dylai staff dderbyn codiad cyflog o fis Medi 2021.
Mae'r newid yn groes i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, lle mae cyflogau gweithwyr y sector gyhoeddus wedi'u rhewi.
Am y rheswm yma, ni chafodd y llywodraeth arian ychwanegol drwy'r fformwla Barnett, ac roedd disgwyl i awdurdodau lleol dalu am unrhyw gostau ychwanegol i ddechrau.
Mae'r llywodraeth wedi cadarnhau ddydd Mercher y bydd £6.4 miliwn o arian ychwanegol yn cael ei roi i gyllido'r cynnydd oherwydd y "pwysau parhaus ac eithriadol" y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu oherwydd Covid-19.
Dywedodd y Gweinidog Addysg: "Wrth bennu cyflogau athrawon am y trydydd tro, rydym wedi parhau i ymwahanu oddi wrth y cynigion yn Lloegr drwy ddyfarnu cyflog uwch i athrawon yng Nghymru a chyflwyno rhai newidiadau allweddol y mae'r proffesiwn yn gofyn amdanynt.
"Wrth symud ymlaen, bydd y gwaith ymchwil ac adolygu tymor hwy sydd ar y gweill ynghylch cyflog ac amodau athrawon yng Nghymru hefyd yn helpu i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn atyniadol i raddedigion a rhai sy'n newid gyrfa."