Gyrrwr beic cwad wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng Llandderfel a Llandrillo
Mae gyrrwr beic cwad wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd rhwng Llandderfel a Llandrillo ger ffin Gwynedd a Sir Ddinbych ddydd Sul.
Y beic cwad Honda oedd yr unig gerbyd yn y gwrthdrawiad ar ffordd y B4401 am 19.01 nos Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r lleoliad, ond er gwaethaf eu hymdrechion bu farw'r gyrrwr yn y fan a'r lle.
Mae ei berthnasau agosaf a'r crwner wedi cael gwybod.
Cafodd y ffordd ei chau am sawl awr yn dilyn y digwyddiad er mwyn caniatáu i'r heddlu ymchwilio.
Dywedodd y Rhingyll Duncan Logan o Heddlu Gogledd Cymru: "Rwy'n cynnig fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu'r dyn yn yr amser anodd hwn.
"Mae'r digwyddiad hwn bellach yn cael ei ymchwilio, yn anffodus, fel gwrthdrawiad traffig ffordd angheuol.
"Rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod â thystiolaeth - gan gynnwys lluniau CCTV, dashcam neu ffôn symudol - neu a oedd yn cerdded neu’n teithio yn yr ardal, i gysylltu â ni."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â swyddogion yr Uned Troseddau Ffyrdd, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 26000350452.
