Y gwasanaethau brys yn ymateb i dân ar long yng Nghasnewydd
Mae criwiau tân o bob cwr o Dde Cymru wrthi'n ymateb i ddigwyddiad yn ymwneud â thân ar fwrdd llong yn Nociau Casnewydd.
Cyrhaeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru leoliad y tân ar fwrdd y llong Nord Houston am 05:38 fore dydd Sul.
Roedd y llong wedi'i docio yn y porthladd ac yn cludo tua 1,000 tunnell o fetel sgrap.
Mae nifer sylweddol o adnoddau wedi'u defnyddio meddai llefarydd o'r Gwasanaeth Tân, gan gynnwys pum peiriant pwmpio, dau blatfform awyr hydrolig, ac amrywiaeth o unedau arbenigol.
Ar hyn o bryd mae'r tân wedi'i amgylchynu, ac mae "tactegau'n cael eu hadolygu'n barhaus" meddai 'r llefarydd.
Nid oes unrhyw risg uniongyrchol i fywyd nac i eiddo cyfagos.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithio gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys Associated British Ports, awdurdodau'r harbwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr heddlu a'r awdurdod lleol, i sicrhau diogelwch y cyhoedd ac i asesu a lliniaru unrhyw effaith amgylcheddol posib.
Mae'r cyhoedd wedi eu cynghori i gadw draw o'r ardal am y tro.
