Caniatáu bendithio priodasau cyplau o’r un rhyw yn eglwysi Cymru
Fe fydd hawl gan gyplau o’r un rhyw gael gwasanaeth mewn eglwys i fendithio’u priodasau.
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi pleidleisio o blaid y cynnig gafodd ei drafod gan y Corff Llywodraethu ddydd Llun.
Roedd y Bil yn cynnig bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio’n arbrofol am bum mlynedd, gyda’r mater yn un i glerigwyr unigol benderfynu os ydyn nhw’n dymuno arwain y gwasanaeth.
Cyn y bleidlais, dywedodd Uwch Esgob yr Eglwys yng Nghymru, Andy John, ei fod yn ymwybodol o bryderon gan rai am y Bil, “sy’n ei ystyried fel ymadawiad o air Crist”.
Dywedodd yr Esgob: “Ond mae pob datblygiad yn ymadawiad i ryw raddau; mae rhywbeth yn newid pryd bynnag mae datganiad newydd o ymarfer”.
Ychwanegodd: “Rhaid i ‘awdurdod y ddoe tragwyddol’ beidio bod yn faen melin o amgylch ein gyddfau ond rhoi sail ar gyfer croesawu’n ddewr yr hyn mae Duw yn ei wneud yn y byd o’n hamgylch.
“Mae cenhadaeth bob amser wrth galon ffydd. Ac mae bod yn fyw i Dduw, i’r hyn a allai ddigwydd nesaf, yn rhan o barhau’n chwilfrydig ac agored i gyfleoedd newydd”.
Mae’r gwasanaethau newydd yn cynnig bendith yn unig ac ni fydd cyplau o’r un rhyw yn gallu priodi mewn eglwysi yn dilyn y bleidlais.