Lansio ymgynghoriad i reoleiddio'r defnydd o feiciau dŵr yn y DU
Mae ymgynghoriad wedi ei lansio i geisio mynd i'r afael â defnydd peryglus o feiciau dŵr (jet skis).
Argymhelliad Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw bod beiciau dŵr a chychod cyflym yn dod o dan yr un cyfreithiau â llongau.
Byddai hyn yn golygu cosbau llymach am yrru'n beryglus.
Daw'r ymgynghoriad yn dilyn nifer o alwadau am reoleiddio llymach.
Ar hyn o bryd, mae gan gynghorau sir yr hawl i reoleiddio gyrru cyflym neu yrru sy'n achosi poendod drwy is-ddeddfwriaethau, gyda'r hawl i roi dirwy o hyd at £1,000 i unrhyw un sy'n mynd yn groes i'r rheolau.
Er bod nifer o gynghorau wedi cyflwyno mesurau eu hunain, sy'n cynnwys terfynau cyflymder ac arwyddion, mae nifer o ardaloedd sydd heb eu rheoleiddio ar draws y DU.
Yma yng Nghymru fe alwodd Cyngor Gwynedd am gyfreithiau cenedlaethol i reoli'r defnydd o feiciau dŵr y llynedd, ac mae Cyngor Ynys Môn yn cynnal cynllun cofrestru beiciau dŵr i berchnogion.
Ers dechrau 2020, dywed Llywodraeth y DU bod pedwar o bobl wedi marw mewn cysylltiad â gyrru peryglus ar feiciau dŵr.
Wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad, dywedodd Gweinidog Morwrol Llywodraeth y DU, Robert Courts: "Mae'r rhan helaeth o ddefnyddwyr beiciau dŵr, a'r sawl sy'n defnyddio badau dŵr personol ac adlonnol, yn ei wneud mewn modd diogel a chyfrifol. Ond, mae rhai sydd yn anffodus yn peryglu eraill.
"Bydd cyflwyno'r deddfwriaethau hyn yn rhwystro damweiniau rhag digwydd, gan alluogi pawb i fwynhau ein hardaloedd morol, traethau ac arfordiroedd yn ddiogel a gyda thawelwch meddwl".