Oedi posib i deithwyr wrth i 'lwyth anghyffredin' gael ei gludo i'r canolbarth
Mae rhybudd y gallai gyrwyr brofi oedi ar rai o ffyrdd y gogledd a'r canolbarth yn ystod mis Medi.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod hyn wrth i'r llu hebrwng llwythi "anghyffredin" eu maint i fferm wynt newydd ger Y Groes, Powys.
Mae'r gwaith o gludo'r llwythi ar hyd ffyrdd yr A483, A5, A483, A489, A470, A4081, A483 a'r A44 i safle Fferm Wynt Hendy eisoes wedi dechrau.
Fe fydd llwythi'n cael eu cludo unwaith bob diwrnod gwaith ac mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi'r llwybr.
Mae'r llu wedi nodi bras amserlen o'r teithiau, a fedrai newid ychydig:
- Gadael Wrecsam A483 am 9:30 - 10:30
- Cyrraedd Y Trallwng am 11:00-12:00
- Cyrraedd Y Drenewydd am 12:00-13:00
- Cyrraedd Rhaeadr Gwy A470 am 13:45-14:45
- Cyrraedd Llandrindod am 14:30-15:30
- Cyrraedd y safle A44 am 15:00-15:30
Dywedodd y Sarjant Matthew Thomas o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Dyfed-Powys: "Mae disgwyl i'r hebryngiadau gael eu cwblhau ar ddydd Mawrth, 28 Medi, ond mae 29 Medi tan 1 Hydref yn ddiwrnodau wrth gefn os yw'r amserlen ddosbarthu’n profi oedi.
"Mae tîm hebrwng y llu yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau'r effaith ar y ffyrdd a chymunedau lleol. Rydym yn diolch iddynt am eu hamynedd parhaus a'u dealltwriaeth. Ein bwriad yw darparu diweddariadau cyson", ychwanegodd.