Meddwl am faint y dasg wrth lywodraethu Cymru yn ‘heriol’ meddai Rhun ap Iorwerth
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud bod meddwl am faint y dasg os yw’n ffurfio llywodraeth nesaf Cymru yn “heriol”.
Wrth siarad ar Radio Wales dywedodd Rhun ap Iorwerth nad oedd “o dan unrhyw gamargraff ynglŷn â maint yr her yr ydyn ni’n ei wynebu”.
Mae arolygon barn wedi awgrymu mai Plaid Cymru neu Reform sydd fwyaf tebygol o ennill y mwyaf o seddi yn Etholiad y Senedd ar 7 Mai.
Ond does yr un arolwg yn awgrymu y byddai unrhyw blaid yn agos at fwyafrif, gan olygu y bydd rhaid iddyn nhw gydweithio gyda phleidiau eraill os ydyn nhw am lywodraethu.
Fe gafodd Rhun ap Iorwerth ei holi gan raglen Sunday Supplement, a oedd yn pryderu am ffurfio llywodraeth heb fod â’r profiad o fod wedi bod yn weinidog o’r blaen.
“Mae gyda ni broblemau mawr iawn, iawn, nid rhai cyllidebol yn unig ond maint y problemau ar iechyd, addysg, yr economi ac yn y blaen,” meddai.
“Mae’n heriol (daunting).
“Dydyn ni ddim dan unrhyw gamargraff ynghylch maint yr her sy'n ein hwynebu, natur yr hyn yr bydden ni’n ei etifeddu gan Lafur pe baem yn ennill yr etholiad hwn ac yn ffurfio llywodraeth.
“Ond yr hyn rydyn ni’n ei wybod yw ein bod ni wedi gwneud y gwaith ers misoedd lawer iawn i sicrhau bod gennym ni raglen lywodraethu sydd, yn ein barn ni, yn taro’r cydbwysedd iawn rhwng bod yn radical a bod yn ymarferol.
“Rydyn ni hefyd yn gwybod bod yna lawer iawn o bobl nad ydyn nhw’n gefnogwyr naturiol i Blaid Cymru, nac yn bobl o fewn y blaid, ond yn hytrach yn arweinwyr yn eu cymunedau, ym mywyd cyhoeddus ac ym myd busnes, sy’n dangos ewyllys da enfawr tuag atom ni ac sydd eisiau ein helpu ni.
“Dw i eisiau gwneud hwn yn fenter genedlaethol i Gymru.”
Y gwasanaeth sifil
Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth gadarnhau mai un peth na fyddai yn ei wneud fyddai ehangu maint y gwasanaeth sifil yn sylweddol.
“Mae cynnydd mawr wedi bod yng ngwasanaeth sifil y DU ac yng ngwasanaeth sifil yr Alban, a dyw hynny ddim wedi digwydd yng Nghymru,” meddai.
“Mae hynny, mewn termau ymarferol pur, yn dangos maint y broblem o ran capasiti.
“Ond dw i ddim yn mynd i ddod i mewn a dweud, ‘Gadewch i ni gyflogi 1,000 yn fwy o weision sifil.’
“Beth rydych chi’n ei wneud yw dweud, iawn, sut ydyn ni’n gweithio’n gallach, sut ydyn ni’n arloesi yn y ffordd rydyn ni’n gweithredu?'
Ychwanegodd: “Pan ddaeth yr SNP i rym yn yr Alban yn 2007, fe ddywedodd pobl y bydden nhw’n wynebu problem gyda gwasanaeth sifil nad oedd wedi arfer gweithio gyda’r SNP, y gallai hynny fod yn rhwystr.
“Ddaru hynny ddim digwydd yn yr Alban, ac mae gen i ffydd y gallwn ni weithio gyda’r gwasanaeth sifil sydd gennym ni.
“Ac y byddan nhw eisiau chwilio am ffyrdd newydd o weithio, gweithio mewn ffyrdd mwy arloesol, cael mwy am yr un gost, a gwneud pethau mewn ffordd wahanol.
“Ac mae’n anodd newid pethau pan fyddwch chi wedi cael 27 mlynedd o brif weinidogion o’r un blaid. Nawr mae gennyn ni gyfle am newid go iawn.”
