Dynes o Nefyn yn pledio'n euog i dwyll ar ôl dwyn gan gwsmeriaid banc yng Nghaernarfon

llys ynadon caernarfon

Mae dynes o Nefyn wedi pledio'n euog i dwyll ar ôl dwyn gan gwsmeriaid banc yng Nghaernarfon - gan ddefnyddio rywfaint o'r arian i fynd ar wyliau tramor.

Fe wnaeth Kelly Kershaw, 54 oed, bledio'n euog i bum cyhuddiad o dwyll yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mercher.

Roedd hi wedi cyflawni'r troseddau yn 2023 a 2024 wrth weithio fel ariannwr (cashier) ym manc Nationwide yng Nghaernarfon. Roedd Nationwide wedi cynnal ymchwiliad mewnol ar ôl i aelodau staff sylwi ei bod yn mynd ar wyliau drud.

Roedd hi wedi bod ar wyliau sgïo ac wedi mynd ar drip safari yn Affrica, ac roedd lluniau ohoni ar wyliau ym Mharis, Twsgani, Groeg, Mecsico, y Maldives, Indonesia, Norwy, Dubai a llefydd eraill.

'Cwsmeriaid bregus'

Dywedodd Huw Evans ar ran yr erlyniad bod Kershaw wedi dwyn gan gwsmeriaid mwyaf bregus y banc yng Nghaernarfon.

Roedd y rhain yn cynnwys dyn 85 oed a oedd wedi cael strôc, dyn 49 oed ag anghenion dysgu a thri o bensiynwyr.

Roedd Nationwide wedi ad-dalu £8,630 ar ôl i'r dioddefwyr hawlio iawndal.

Ychwanegodd Mr Evans fod Kelly Kershaw yn aelod o staff roedd modd ymddiried ynddi pan gafodd ei chyflogi gan Nationwide 18 mlynedd yn ôl.

Cafodd ymchwiliad mewnol ym mis Hydref 2024 ei gynnal ar ôl amheuon bod Kershaw yn ffugio llofnodion cwsmeriaid ac yn prosesu taliadau heb i gwsmeriaid wybod.

Dywedodd swyddog prawf wrth y llys bod Kershaw, sydd â dau blentyn sydd bellach yn oedolion, bellach yn gweithio mewn swyddfa busnes glanhau.

Roedd hi'n honni fod ganddi "obsesiwn gyda siopa" ac yn rhoi arian i bobl ddigartref.

Ond fe wnaeth hi hefyd gyfaddef bod yr arian wedi talu am wyliau tramor.

Clywodd y llys ei bod yn ennill £1,400 y mis a bod ei phartner, a oedd yn gweithio i ffwrdd o adref, yn ennill cyflog uwch.

Dywedodd Michael Strain ar ran y diffynnydd bod Kershaw wedi symud i ffwrdd o adref i gael "dechrau newydd" cyn iddi ddioddef salwch.

"Dyw hi wir ddim yn gwybod beth achosodd hi i ymddwyn fel hyn," meddai Mr Strain.

"Mae hi wedi colli ei swydd a'i henw da am ei gonestrwydd."

Cafodd Kershaw o Stryd y Llan, Nefyn, ei rhyddhau ar fechnïaeth cyn iddi gael ei dedfrydu ar 8 Mai yn Llys y Goron Caernarfon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.