Cynllun i ailddatblygu adeiladau hanesyddol yng nghanol Pwllheli
Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno i ailddatblygu adeiladau hanesyddol o’r 19eg ganrif yng nghanol tref Pwllheli.
Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried cynllun gan ddatblygwyr i drawsnewid ac adfer yr adeiladau segur ar iard Gwesty’r Tŵr ar Stryd y Llan.
Fe gaeodd Gwesty’r Tŵr, neu’r Tower Hotel, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, ei ddrysau yn 2019 ac mae wedi bod yn nwylo menter gymunedol Menter y Tŵr ers 2023.
Mae’r adeiladau segur y tu ôl i'r gwesty yn cynnwys bloc stablau, llofft wair a thŷ coets. Maen nhw mewn cyflwr gwael ac yn cael eu defnyddio’n rhannol fel storfa ers cau’r gwesty yn 2019.
Gobaith y datblygwyr yw eu hailddatblygu yn unedau busnes a lle i aros, a fydd yn helpu i roi hwb diwylliannol ac economaidd i ganol y dref.
Y gred yw eu bod nhw wedi cael eu hadeiladu tua’r un pryd â’r gwesty ei hun, yn 1875.
Dywed y cais gan Carys Owen o Fenter y Tŵr bod yr adeiladau yn anarferol i ganol Pwllheli, gan eu bod yn debyg i adeiladau amaethyddol gwledig traddodiadol.
“Er eu bod mewn cyflwr gwael ar ôl blynyddoedd o esgeulustod, ac er eu bod wedi newid dros amser, mae’r adeiladau’n dal yn ddeniadol ac o werth hanesyddol,” meddai.
“Dyna pam mae’n bwysig eu cadw yng nghanol y dref.
“Mae’r waliau cerrig garw, y ffurf isel a’r drysau pren mawr yn rhoi golwg fwy gwledig iddyn nhw. Mae hynny’n wrthgyferbyniad amlwg â blaen mwy addurnedig Gwesty’r Tŵr ar y stryd fawr.”
Yn ôl y cynlluniau, dim ond effaith fach iawn fydd y gwaith yn ei chael ar gymeriad hanesyddol y safle.
Bydd cyfnod o ymgynghoriad ar y cais yn dod i ben ar 10 Mai.
