‘Euogrwydd yn ofnadwy’: Ymwelwyr iechyd yn parhau ar streic ar ôl wyth wythnos
Mae un ymwelydd iechyd wedi dweud ei bod hi’n teimlo’n “euog” ond yn benderfynol ar ôl wyth wythnos ar streic yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Mae’r ymwelwyr iechyd yn galw am godiad cyflog i adlewyrchu’r gwaith maen nhw’n ei wneud, gydag undeb Unite yn dweud eu bod nhw’n colli hyd at £9,000 y flwyddyn.
Mae ymwelwyr iechyd ym mand chwech. Ond maen nhw’n teimlo, o dan y system graddio swyddi fewnol, eu bod nhw mewn gwirionedd yn gweithio ar lefel hyd at fand saith.
“Mae’r euogrwydd yn ofnadwy,” meddai Gemma Emmanuel.
“Rydyn ni’n teimlo mor euog tuag at y teuluoedd a’n cymuned. Diolch byth, rydyn ni wedi cael cefnogaeth wych gan y gymuned, ond byddwn ni’n aros allan cyhyd ag y mae’n ei gymryd.
“Os bydd yn cymryd misoedd neu fwy, byddwn ni’n aros allan nes bod y band saith wedi’i gydnabod, ac nid ydym yn derbyn unrhyw beth llai na’r band saith.”
Dywedodd un fam sydd wedi’i heffeithio, Katie Lewis, wrth ITV ei bod hi wedi bod “ar goll” heb gefnogaeth i’w babi, Mali.
“Fe gafodd hi Adolygiad Ymgynghorydd, a dywedon nhw wrthon ni y byddai yna ymyriadau rheolaidd gan yr ymwelydd iechyd a’r therapydd chwarae,” meddai.
“Fe ddaethon nhw unwaith, a dyna oedd hynny, ac mae sefyllfa bwyta Mali wedi gwaethygu’n sylweddol, ac rydyn ni wedi cael ein gadael ar ein pennau ein hunain.
“Rydyn ni ar goll, yn gyfan gwbl ar goll.”
‘Gwarthus’
Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
“Mae Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi diwygio’r safonau hyfforddi ar gyfer ymwelwyr iechyd, sy’n golygu bod angen cymhwyster lefel Meistr ar ymwelwyr iechyd newydd.
“Mae angen adlewyrchu’r newid hwn mewn disgrifiadau swyddi ymwelwyr iechyd.
“Mae Grŵp Partneriaeth Arbenigol wedi’i sefydlu i adolygu’r disgrifiadau swyddi ar sail Cymru Gyfan. Fodd bynnag, mae Unite wedi penderfynu peidio ag ymuno â’r grŵp hwn.”
Dywedodd Paul Seppman o Unite ei fod yn “warthus bod hyn wedi mynd ymlaen am wyth wythnos”.
“Maen nhw’n credu bod hyn yn fater i Gymru gyfan,” meddai.
“Ond mae disgrifiadau swydd yn benodol i’r byrddau iechyd.
“Dyna pam mae ymwelwyr iechyd wedi gofyn am edrych eto ar eu disgrifiadau swydd.”
Ymateb y pleidiau
Wrth ymateb, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y bydden nhw'n blaenoriaethu cadw, recriwtio a chefnogi staff y GIG yn briodol i gryfhau gwasanaethau a gwella gofal ledled Cymru.
Galwodd Plaid Cymru ar y bwrdd iechyd i ddod i’r bwrdd i drafod yn ddidwyll gyda’r undeb, er mwyn sicrhau bod camau cyflym yn cael eu cymryd i gyrraedd setliad teg.
Dywedodd Plaid Werdd Cymru na ddylai’r bwrdd iechyd eu talu ar fand is na’r un y mae eu disgrifiadau swydd a’u cymwysterau wedi’u graddio iddo, a bod angen gwrthdroi hyn ar unwaith fel y gall ymwelwyr iechyd ddychwelyd i’r gwaith.
Roedd ITV wedi cysylltu gyda'r prif bleidiau eraill am sylw.