'Falch o weld' galwad i wahardd ailwerthu tocynnau cyngerdd am brisiau uwch
Mae dyn ifanc o Gaerdydd wnaeth dalu yn sylweddol uwch na phris gwreiddiol am docyn i gyngerdd yn "falch o weld" adroddiad sy'n galw am weithredu "heb oedi" i wahardd ailwerthu tocynnau am bris uwch na'r gwreiddiol.
Roedd Daniel Williams wedi talu llawer mwy na'r pris gwreiddiol am docyn i gyngerdd Oasis yn y brifddinas haf diwethaf.
Bellach mae adroddiad, a gyhoeddwyd gan bwyllgor annibynnol Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU yn galw am weithredu er mwyn atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol.
Wrth i'r adroddiad gael ei lansio yn nhafarn Le Pub yng Nghasnewydd mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys i sicrhau nad yw gwerthwyr tocynnau yn "ildio i demtasiwn" ailwerthu tocynnau am brisiau uwch.
Mae'r pwyllgor hefyd yn galw am sefydlu Cymdeithas Cefnogwyr Cerddoriaeth, sydd yn debyg i'r hyn sydd eisoes yn bodoli i gefnogwyr pêl-droed.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Daniel ei fod yn "falch" o weld bod adroddiad yn galw am weithredu ar frys i fynd i'r afael â'r broblem.
"Fi'n falch fod y broses wedi dechrau i wneud yn siŵr fod yr un peth ddim yn digwydd eto," meddai.
"Er roedd y cyngerdd werth bob ceiniog, bydde fe wedi bod yn neis gwybod fy mod i wedi talu yr un faint â phawb arall.
"O’n i’n siomedig achos o’n i 'di treulio fy nydd Sadwrn yn ciwio am docyn o dan yr argraff ei fod yn mynd i fod yn ddrud ond ddim yn wirion o ddrud.
"Mae'n annheg bod lot o bobl wedi talu hanner be' nes i dalu am yr un tocyn, achos does dim byd extra yn dod efo’r arian ychwanegol nes i dalu.
"Yr un tocyn yw e a’r tocynnau oedd gan bobl oedd wedi bod yn ddigon ffodus i dalu £148 yn hytrach na £355, felly o'n i'n siomedig iawn."
Ychwanegodd Mr Williams nad oedd wedi derbyn rhybudd swyddogol y byddai prisiau'r tocynnau'n codi cyn prynu.
"Yr unig rhybudd ges i oedd gan fy ffrindiau oedd wedi cael mewn i'r wefan cyn fi ac oedd wedi textio i ddweud bod prisiau wedi dwblu a bod rhaid talu £355 i gael tocyn sefyll – ges i ddim rhybudd gan Ticketmaster na’r band eu hunain," meddai.
"Fi’n credu bydd e’n rhoi lot o bobl off yn y dyfodol i brynu tocynnau bandiau eraill, yn enwedig gan Ticketmaster.
"Gobeithio nawr y tro nesa' mai talu'r un pris a pawb arall fydd y sefyllfa."
Mae Ticketmaster wedi dweud yn flaenorol nad yw'n gosod prisiau cyngherddau, a bod eu gwefan yn nodi mai "trefnydd y digwyddiad" sydd wedi "gosod y prisiau yn seiliedig ar werth y farchnad".
'Cyfathrebu clir'
Dywedodd Yr Arglwydd Brennan, cadeirydd yr adolygiad, fod "cefnogwyr o bob math o gerddoriaeth" wedi lleisio eu barn ar ailwerthu tocynnau am bris uwch.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi rhoi llais i gefnogwyr o bob genre o gerddoriaeth ledled y wlad, ac maen nhw wedi bod yn glir yn dweud eu bod yn aml yn teimlo bod cwmnïau yn codi gormod wrth ailwerthu tocynnau.
"Mae ein siarter newydd yn cynnig llwybr ymarferol fel bod pawb, o wefannau tocynnau i artistiaid, hyrwyddwyr a chynghorau, yn gallu sicrhau dyfodol hirdymor cerddoriaeth byw."
Mae rhai o argymhellion y siarter yn cynnwys bod Llywodraeth y DU yn sicrhau bod prisiau tocynnau yn cael eu "cyfathrebu'n glir o flaen llawn ac yn cael ei weithredu'n gywir."
Ychwanegodd yr adroddiad fod angen i'r diwydiant "beidio ildio i gyflwyno prisio dynamig" ar docynnau.
Fe wnaeth arolwg ganfod fod codi prisiau tocynnau yn gwneud i gefnogwyr deimlo "lefelau uwch o straen, ofn colli allan a phwysau i wneud penderfyniadau anfforddiadwy."
Teimlai rhai hefyd bod angen i leoliadau cerddoriaeth byw gyhoeddi amseroedd cychwyn a gorffen i gyngherddau er mwyn galluogi cefnogwyr i gynllunio eu taith o flaen llaw.