Iaith y Garreg Las: Rhyddhau cân i nodi 100 diwrnod tan Eisteddfod Genedlaethol 2026
Bydd sengl newydd gan Einir Dafydd a disgyblion Ysgol Bro Preseli yn cael ei rhyddhau 100 diwrnod cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr ardal.
Mae'r gân sydd yn cael ei disgrifio fel un sydd yn "blethiad o werin Geltaidd, canu corawl a sŵn pop ysgafn" yn dathlu hunaniaeth yr ysgol a chartref yr Eisteddfod eleni yng ngogledd Sir Benfro.
Enw'r gân yw Iaith y Garreg Las ac mae wedi ei chyfansoddi gan Einir Dafydd a'i sgwennu gan y prifardd Ceri Wyn Jones.
Gweithiodd y ddau gyda disgyblion yr ysgol i greu cân "sydd yn dathlu treftadaeth ardal Ysgol Bro Preseli, o’r dafodiaeth i’r ddaearyddiaeth, gyda phob pentref a phlwyf yn cael eu henwi."
Dywedodd Einir fod perfformio'r gân gyda'r disgyblion yn "fraint."
“Mae’r garreg las yn symbol mor bwysig o’n hunaniaeth ni yma yn y Preselau," meddai.
"Mae hi wedi bod yn fraint cael disgyblion yr ysgol yn cyd-ganu’r gân gyda fi ac yn dathlu eu cynefin.”
Mae Einir wedi ennill cystadlaethau WawFfactor a Chân i Gymru ac erbyn hyn wedi rhyddhau nifer o ganeuon gyda label Fflach.
Fe fydd fideo o'r gân yn cael ei rhyddhau ar ddydd Llun 23 Ebrill, 100 diwrnod cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol gychwyn.
Bydd y sengl ar gael i'w ffrydio ar yr un diwrnod.