Carcharu dau o Gaerffili am smyglo mudwyr dan gysgod busnes golchi ceir
Mae dau ddyn a oedd yn smyglo pobl i Ewrop dan gysgod eu busnes golchi ceir mewn tref yn Sir Caerffili wedi cael eu carcharu.
Roedd yn ymddangos bod Dilshad Shamo, 43 oed, sy'n wreiddiol o Irac, ac Ali Khdir, 42 oed, sy'n wreiddiol o Iran, yn berchen ar y busnes "llwyddiannus" Fast Track Hand Car Wash yng Nghaerffili.
Ond y tu ôl i'r llenni, roedd y ddau yn trefnu'n anghyfreithlon i gannoedd o bobl deithio o Irac, Iran a Syria trwy Dwrci, Belarus, Moldofa a Bosnia.
Fe wnaeth rhwng 409 a 639 o ddinasyddion nad ydyn nhw'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd gyrraedd yr Eidal, yr Almaen, Croatia a Romania yn anghyfreithlon, yn aml trwy Dwrci, yn 2022 a 2023, yn ôl barnwr.
Roedd Shamo a Khdir yn cynnig gwasanaeth tair haen i'w cwsmeriaid, gyda'r symlaf ar droed neu mewn cerbyd nwyddau trwm, y nesaf mewn llong cargo neu gwch hwylio, a'r haen uchaf mewn awyren.
Daeth eu rôl i'r amlwg yn dilyn ymchwiliad cudd gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, gyda chefnogaeth Heddlu Gwent.
Fe wnaeth y pâr bledio'n euog i bob cyhuddiad yn eu herbyn ar ôl 10 diwrnod o glywed tystiolaeth yr erlyniad yn eu hachos yn Llys y Goron Caerdydd.
Ddydd Gwener, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke o Gofiadur Caerdydd y bydd y ddau yn cael eu carcharu am 19 mlynedd.
Dywedodd wrthyn nhw eu bod wedi bod yn rhan o gynllun i fasnachu pobl er budd ariannol rhwng Hydref 2022 ac Ebrill 2023.
"Roedd y bobl hynny’n bennaf o Iran, Irac neu Syria," meddai’r barnwr.
"Roedd mudwyr wedi talu - yn aml miloedd o bunnoedd - i gael eu masnachu ar draws Ewrop gennych chi a nifer o rai eraill, trwy sawl llwybr oedd wedi'i gynllunio neu drwy’r Eidal, Romania, yr Almaen a Croatia."
Ychwanegodd y Barnwr Lloyd-Clarke fod y mewnfudwyr yn talu'r arian cyn y daith.
"Byddai’r hwyluswyr fel arfer yn defnyddio system trosglwyddo arian Hawala, lle nad oes angen anfon arian rhwng yr anfonwr a’r derbynnydd, trwy asiantau arian sydd wedi’u lleoli yn Irac ac mewn mannau eraill, i reoli’r trosglwyddiadau ariannol gan y mudwyr a rhyngddynt eu hunain,"meddai.
"Weithiau byddech chi’n teithio i’r gwledydd lle digwyddodd y smyglo er mwyn datrys problemau lleol, neu i edrych ar lwybr smyglo newydd."
'Busnes trefnus a llwyddiannus'
Fe wnaeth y barnwr ddisgrifio sut oedd gan y dynion bedwar dull ar gyfer smyglo pobl, gydag erlynwyr yr achos yn cyfeirio at y dulliau fel llwybr Twrci, llwybr y fisa, llwybr y lorïau a llwybr Bosnia.
Yn ôl y Barnwr Lloyd-Clarke, roedd y busnes yn "drefnus ac yn llwyddiannus" ac yn ymwneud â symud nifer o bobl ar wahanol lwybrau trwy nifer o wledydd.
Clywodd y llys fod nifer fach o'r bobl a gafodd eu smyglo, neu a oedd yn bwriadu cael eu smyglo, yn gysylltiedig â nhw neu o bosibl yn gysylltiedig â nhw.
Cafodd fideos o deithiau llwyddiannus eu defnyddio i hysbysebu'r busnes i gwsmeriaid newydd, ychwanegodd y Barnwr Lloyd-Clarke.
Fe aeth ymlaen i ddweud fod rhai o'r llwybrau'n cynnwys sefyllfaoedd peryglus, gan gynnwys pobl yn cuddio mewn lori dros nos ar long, neu'n croesi ffin sy'n cael ei diogelu gan weiren neu warchodwyr.
Roedd rhai o'r bobl a gafodd eu smyglo yn agored i niwed, gan gynnwys un person oedd yn anabl, a nifer o deuluoedd â phlant ifanc.
Yn ystod yr achos, dywedodd yr erlynydd Sarah Gaunt fod dyfeisiau gwrando’r heddlu wedi cael eu gosod yng ngheir y diffynyddion ac ar safle'r busnes golchi ceir yn ystod yr ymgyrch.
Roedd modd gweld y diffynyddion yn trefnu ac yn cysylltu â phobl i gynorthwyo, neu geisio cynorthwyo, mewnfudo anghyfreithlon, meddai.
Wrth siarad yn dilyn yr achos, dywedodd Derek Evans o'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol: "Dangosodd ein hymchwiliad fod Khdir a Shamo yn gweithio'n galed i symud mudwyr ar draws Ewrop. Rydym yn credu eu bod wedi smyglo mwy na 400 o bobl mewn cyfnod o chwe mis yn unig.
"Er ar yr wyneb eu bod yn portreadu eu hunain fel dynion busnes llwyddiannus yn rhedeg busnes golchi ceir o Gaerffili, roedden nhw mewn gwirionedd yn byw bywyd hollol ar wahân fel rhan o rwydwaith troseddol."