Plaid Cymru yn addo 'gwleidyddiaeth feiddgar' wrth gyhoeddi eu maniffesto

Plaid Cymru yn addo 'gwleidyddiaeth feiddgar' wrth gyhoeddi eu maniffesto

Mae Plaid Cymru wedi dweud fod ganddyn nhw “weledigaeth feiddgar a hyderus ar gyfer dyfodol Cymru” wrth lansio eu maniffesto ddydd Iau ar gyfer etholiad y Senedd ymhen pedair wythnos.

Fe wnaeth y blaid lansio eu maniffesto yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod y “maniffesto yn cynnig arweinyddiaeth newydd i Gymru wedi ei wreiddio mewn tegwch, wedi ei yrru gan uchelgais - gyda cyfeiriad clir ar gyfer dyfodol y wlad”.

Dywedodd Plaid Cymru fod y maniffesto yn amlinellu'r blaenoriaethau uniongyrchol "fydd yn diffinio llywodraeth Plaid Cymru", sef:

·       torri amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd

·       cefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant

·       codi safonau mewn addysg

·       datgloi potensial llawn economi Cymru

·       sefyll yn gadarn dros Gymru i sicrhau bargen decach gan San Steffan

Ychwanegodd y blaid eu bod nhw yn “cyflwyno gweledigaeth tymor hwy ar gyfer Cymru gryfach, fwy hyderus gan adeiladu economi fwy ffyniannus lle mae cyfleon yn cael ei rhannu ar draws y genedl".

Cydweithio

“Mae hyn yn cynnwys cynlluniau beiddgar megis defnyddio caffael cyhoeddus i fuddsoddi yn nyfodol busnesau lleol, sicrhau bod Cymru’n elwa o’i hadnoddau ei hun drwy Gronfa Cyfoeth Cymru newydd, a buddsoddi mewn tai drwy uwchraddio ac ôl-osod stoc tai, ac amddiffyn rhentwyr, i wneud cartrefi da yn fwy fforddiadwy,” meddai’r blaid.

Ychwanegodd Mr ap Iorwerth: “Mae Cymru yn genedl â photensial enfawr ond yr hyn sydd ar goll yw llywodraeth sydd â’r uchelgais a’r cynllun i’w wireddu.

“Mae ein maniffesto yn gosod cyfeiriad newydd i Gymru - un sydd wedi’i wreiddio mewn tegwch ond wedi’i yrru gan uchelgais. 

"Mae’n ymwneud ag adeiladu gwlad lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio, lle mae teuluoedd yn cael eu cefnogi, a lle mae gan bawb y cyfle i adeiladu bywyd da.

“Byddwn yn cymryd camau lle mae ei angen fwyaf - torri amseroedd aros y gwasanaeth iechyd, cefnogi rhieni gyda chost gofal plant, codi safonau yn ein hysgolion, a thyfu economi Gymreig gryfach sy’n gweithio i’n cymunedau.

“Ond mae hwn yn fwy na mynd i’r afael a’r hyn sydd ddim yn gweithio fel y dylai. Mae hwn yn ymwneud â’r dyfodol y gallwn ei adeiladu gyda’n gilydd – Cymru hyderus, yn sefyll ar ei thraed ei hun, ac yn barod i lwyddo.

“Mae’r etholiad hwn yn drobwynt. Gallwn barhau â mwy o’r un peth, neu gallwn ddewis llwybr newydd i’n cenedl.

“Mae Plaid Cymru yn barod i arwain y newid hwnnw.”

Mae’r arolygon barn diweddaraf yn awgrymu mai Plaid Cymru yw’r ceffyl blaen yn y ras etholiadol gyda chyfran o 33% o’r bleidlais, fyddai'n brin o sicrhau mwyafrif yn y Senedd. 

Byddai angen cydweithio gyda phlaid arall er mwyn i Blaid Cymru ffurfio llywodraeth, ac mae dyfalu mai'r Blaid Werdd fyddai'r blaid fwyaf tebygol i wneud hynny.

Mae’r Blaid Werdd eisoes wedi datgan eu bod yn debygol o chwarae rhan ganolog mewn penderfynu dros bwy fydd yn llywodraethu.

Yn ail yn ôl yr arolwg gan YouGov ar ran ITV mae Reform UK, gyda 27%. Yn drydydd mae Llafur, oedd â 13% o’r bleidlais, ond gyda 12% o’r bleidlais mae’r Blaid Werdd.

'Camarwain pleidleiswyr'

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Dylai Plaid Cymru fod yn onest gyda phleidleiswyr.

“Maen nhw’n honni nad ydyn nhw’n canolbwyntio ar annibyniaeth yn yr etholiad hwn ac eto mae eu maniffesto yn nodi map llwybr tuag at annibyniaeth yn benodol.

“Maen nhw hefyd yn camarwain y cyhoedd ar y system bleidleisio, gan ei gosod fel ras dau geffyl mewn system bleidleisio gyfrannol.

“Ac maen nhw’n camarwain pobl ar gyflawni eu haddewidion, yn enwedig ar ofal plant – nad yw’n fforddiadwy o dan eu cynlluniau.

Dywedodd arweinydd Reform UK, Dan Thomas: “Mae Plaid wedi cynnal Llafur ym Mae Caerdydd ers cenhedlaeth.

“Maen nhw’n rhannu cyfrifoldeb am gyflwr ein gwasanaethau cyhoeddus. Nhw yw’r broblem, nid yr ateb.

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: “Mae Plaid Cymru yn bod yn hollol anonest gyda phobl ynglŷn â chost wirioneddol eu cynlluniau ar gyfer annibyniaeth.

“Rydym eisoes wedi gweld yn yr Alban sut y gwnaeth yr SNP a’r Gwyrddion dreulio blynyddoedd o egni gwleidyddol ac arian trethdalwyr yn canolbwyntio ar annibyniaeth yn lle trwsio gwasanaethau cyhoeddus sy’n ei chael hi’n anodd.

“Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol wrthwynebu Brexit oherwydd ein bod yn credu bod torri partneriaethau economaidd a gwleidyddol agos yn gwneud pobl yn dlotach ac yn llai diogel, ac rydym yn gwrthwynebu annibyniaeth i Gymru am yr un rheswm."

Prif Lun: Rhun ap Iorwerth yn lansio maniffesto Plaid Cymru (Llun: Matthew Horwood)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.