Cyn-weithiwr BBC Cymru wedi defnyddio gliniadur oedd â lluniau anweddus o blant '10 dydd cyn ei arestio'

Dylan Dawes

Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.

Mae llys wedi clywed bod cyn-gynhyrchydd gyda BBC Cymru wedi defnyddio gliniadur lle cafodd lluniau anweddus o blant eu darganfod arno ddyddiau cyn iddo gael ei arestio, er iddo honni nad oedd wedi defnyddio’r ddyfais “ers blynyddoedd.”

Mae Dylan Dawes, 50 oed, yn wynebu tri chyhuddiad o feddu ar luniau anweddus o blant, a thri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant ar bedair dyfais wahanol.

Mae wedi pledio’n ddieuog i bob un o’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher drawsgrifiad o gyfweliadau Dylan Dawes gyda’r heddlu wedi iddo gael ei arestio ar 28 Chwefror 2022.

Mewn cyfweliad gyda swyddogion y diwrnod hwnnw, dywedodd Mr Dawes fod y gliniadur yn un hen oedd “heb gael ei defnyddio ers blynyddoedd” ac yn cynnwys “miloedd o luniau o’r teulu, cerddoriaeth a deunydd gwaith.”

Ychwanegodd nad oedd unrhyw beth wedi ei osod ar y gliniadur “ers rhai blynyddoedd” ac nad oedd ganddo “unrhyw wybodaeth” am luniau anweddus ar y dyfeisiadau.

'Dau gyfrif'

Er i Mr Dawes honni nad oedd y gliniadur wedi cael ei ddefnyddio ers cyfnod maith, dywedodd Jennifer Gorman o’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol fod y gliniadur wedi ei ddefnyddio 10 diwrnod cyn iddo gael ei arestio.

Roedd Ms Gorman yn un o’r swyddogion oedd yn rhan o'r ymchwiliad i'r honiadau yn erbyn Dawes.

Mewn ail gyfweliad ar 20 Rhagfyr 2022, 10 mis ar ôl i Mr Dawes gael ei arestio, dywedodd Ms Gorman wrtho fod dau gyfrif ar y gliniadur, gydag un wedi ei ddefnyddio ddyddiau cyn iddo gael ei arestio.

Wrth siarad yn y llys, dywedodd Ms Gorman: “Roedd rhywun wedi logio i mewn i gyfrif Dylan ar 18 Chwefror 2022, 10 diwrnod cyn iddo gael ei feddiannu gan yr heddlu.

“Cafodd y cyfrif arall ei ddefnyddio ddiwethaf ar 9 Medi 2014.”

Atebodd Dylan Dawes “dim sylw” i gwestiynau'r heddlu am ddefnydd y gliniadur.

Mae’r llys eisoes wedi clywed bod swyddogion wedi dod o hyd i 6,277 o ddelweddau anweddus o blant ar ddyfais hard drive, gliniadur, a dau iPad oedd yn berchen i Mr Dawes.

Fore Mercher fe glywodd y llys gan Jordan Myhill, arbenigwr fforensig digidol oedd wedi dadansoddi deunydd ar hard drive a gliniadur Mr Dawes.

Roedd bron i 500,000 o ddelweddau i gyd ar y hard drive, gyda thua 5,400 yn rhai anweddus o blant, meddai Harry Baker ar ran yr erlyniad.

'Lawrlwytho heb wybod'

Wrth gael ei chroesholi gan Andrew Taylor ar ran y diffynnydd, dywedodd Miss Myhill fod delweddau anweddus o blant yn gallu cael eu lawrlwytho “heb i berson wybod” pan yn lawrlwytho deunydd pornograffig cyfreithlon.

Ychwanegodd fod rhai lluniau o wefannau gwahanol yn gallu cael eu “storio” ar ddyfeisiau heb i ddefnyddiwr y wefan fod yn ymwybodol o hynny.

Clywodd y llys bod y broses o lawrlwytho heb i berson wybod gael ei alw’n "caching” ac yn digwydd unwaith mae person yn agor tudalen ar y we.

“Efallai na fyddai’r person sydd yn defnyddio’r ddyfais yn ymwybodol eu bod nhw wedi cael eu lawrlwytho,” meddai Miss Myhill wrth y llys.

Wedi i Mr Taylor holi os fyddai’r broses o archwilio’r cyfrifiadur i ddileu’r deunydd yma yn gallu cymryd “rhai misoedd neu flynyddoedd”, fe wnaeth Miss Myhill gytuno.

Ychwanegodd Miss Myhill bod angen i berson ymweld â gwefan er mwyn i luniau oddi arni gael eu lawrlwytho.

Dywedodd Mr Dawes wrth yr heddlu ei fod wedi edrych ar bornograffi “oedolion” yn y gorffennol, ond yn gwadu fod ganddo ddiddordeb mewn plant.

Fe ddywedodd Miss Myhill nad oedd y wefan lle cafodd y lluniau eu lawrlwytho ohoni bellach yn bodoli.

Ychwanegodd fod y deunydd wedi ei lawrlwytho o wefan bornograffig, gyda nodyn ar dudalen flaen y wefan yn dweud bod yr holl gynnwys yn bornograffi cyfreithlon o oedolion.

Nid oedd ganddi fynediad at y lluniau ei hun, meddai, ond roeddynt wedi eu categoreiddio fel lluniau anweddus o blant gan swyddog yr heddlu.

Fe wnaeth Mr Taylor holi os oedd Miss Myhill wedi edrych trwy'r dyfeisiau i weld a oedd Dylan Dawes wedi lawrlwytho pornograffi oedolion. 

Atebodd “na” i’r cwestiwn hwnnw.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.