Keir Starmer yn cyrraedd Saudi Arabia wedi'r cadoediad rhwng America ac Iran
Mae Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer wedi cyrraedd Saudi Arabia wedi i America ac Iran ddod i gadoediad nos Fawrth.
Fe fydd y cadoediad yn para am bythefnos.
Croesawu'r newyddion y mae Prif Weinidog y DU wedi ei wneud, gan ddweud y bydd y cadoediad yn "dod â moment o ryddhad i'r rhanbarth ac i weddill y byd."
Ychwanegodd: "Gydag ein partneriaid mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i gefnogi a chadw'r cadoediad, ei droi yn gytundeb fydd yn para ac ail agor culfor Hormuz."
Mae'r Prif Weinidog wedi teithio i'r Gwlff i gyfarfod arweinwyr gwledydd yno er mwyn "trafod ymdrechion diplomataidd i gefnogi a chynnal y cadoediad" meddai Rhif 10.
Mae disgwyl iddo hefyd gyfarfod aelodau o'r lluoedd arfog Prydeinig yn y rhanbarth.
Roedd ei ymweliad â'r Gwlff wedi ei drefnu cyn y cadoediad.
Fe ddaeth y cyhoeddiad tua awr cyn i fygythiad Donald Trump i fomio Iran "yn ôl i Oes y Cerrig" ddod i rym.
Tanwydd
Fe wnaeth ymosodiadau’r Unol Daleithiau ac Israel ar Iran ac ymateb Tehran, gan gynnwys targedu gwladwriaethau’r Gwlff a chau Culfor Hormuz, gynyddu prisiau tanwydd yn sylweddol ledled y byd.
Roedd pris cyfartalog diesel yn y DU yn 190.6c fore Mercher, i fyny 34% ers 28 Chwefror pan ddechreuodd y brwydro meddai’r sefydliad moduro RAC, tra bod prisiau cyfartalog petrol di-blwm wedi cyrraedd 157.7c, i fyny 19%.
Roedd Mr Trump wedi bygwth dileu gorsafoedd ynni a phontydd Iran os nad oedd modd cael cytundeb i ailagor Culfor Hormuz.
Ond llai na dwy awr cyn i’w amserlen ddod i ben, dywedodd arlywydd yr Unol Daleithiau ei fod yn atal ei fygythiad.
Dywedodd datganiad ar y cyd gan arweinwyr y byd gan gynnwys Syr Keir y byddent yn “cyfrannu at sicrhau rhyddid morwrol yng Nghulfor Hormuz”.