Yr heddlu'n cyhoeddi diweddariad am drywanu pedwar yn Ninbych-y-pysgod
Yr heddlu'n cyhoeddi diweddariad am drywanu pedwar yn Ninbych-y-pysgod
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth am ddigwyddiad yng Ngorsaf Dinbych-y-pysgod pan gafodd pedwar o bobl ifanc eu trywanu nos Fawrth.
Mewn datganiad brynhawn dydd Mercher, dywedodd swyddogion eu bod wedi eu galw wedi adroddiadau fod pobl yn ymladd yn yr orsaf am 21:50.
Roedd y rhai oedd yn ymladd yn cynnwys grŵp o bobl ifanc.
Cafodd pedwar unigolyn rhwng 13 a 17 oed eu hanafu, gyda'r pedwar yn dod o ardal Penfro.
Cafodd y pedwar eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau ond maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau.
Yn dilyn y digwyddiad cafodd bachgen 16 oed a dyn 19 oed eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac maent yn parhau yn y ddalfa.
Ychwanegodd datganiad yr heddlu: "Rydym yn deall y pryder y bydd digwyddiad o'r natur yma wedi'i achosi yn y gymuned, ac er ein bod yn credu ei fod yn ddigwyddiad ynysig, bydd teithwyr yn sylwi ar bresenoldeb cynyddol swyddogion yn yr ardal sydd yno i gynnig tawelwch meddwl.
"Rydym wedi lansio ymchwiliad trylwyr i amgylchiadau llawn y digwyddiad ac yn cadw meddwl agored ynghylch cefndir yr hyn sydd wedi digwydd.
"Rydym yn ymwybodol o luniau ar-lein a byddem yn gofyn i bobl i beidio â rhannu rhain na dyfalu tra bod ditectifs yn canolbwyntio ar yr ymchwiliad.
"Yn olaf - byddwn yn annog unrhyw un a welodd yr hyn a ddigwyddodd neu'r digwyddiadau a arweiniodd ato i gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig drwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu cyfeirnod 916 o 07/04/26."