Mwy o amser i ddioddefwyr a'u teuluoedd i herio dedfrydau 

Cyfiawnder

Fe fydd gan ddioddefwyr a theuluoedd sy’n galaru fwy o amser i herio dedfrydau mae nhw’n teimlo sy’n rhy ysgafn yn ôl Llywodraeth y DU.

O dan gynlluniau newydd, bydd ganddyn nhw chwe mis i ofyn i ailystyried dedfryd – cynnydd syweddol o'i gymharu â'r terfyn presennol o 28 diwrnod, meddai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

 Yn ôl y weinyddiaeth, ni ellir disgwyl i deuluoedd a dioddefwyr ymgysylltu â'r system gyfiawnder mewn cyfnod mor fyr.

Fe fydd diwygio’r cynllun presenol yn rhoi mwy o amser iddyn nhw ofyn i’r Twrnai Cyffredinol a’r Cyfreithiwr Cyffredinol i gyfeirio dedfryd o blaid y cyhoedd i'r Llys Apêl.

Fe fydd gan aelodau eraill o'r cyhoedd dim ond 28 diwrnod i gyfeirio achos.

Dywedodd Comisiynydd y Dioddefwyr Claire Waxman bod y newid wedi’i hen ddisgwyl. 

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd bod, ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu a arweiniwyd gan Tracey Hanson ar ôl marwolaeth drasig ei mab Josh, ac a gefnogwyd gan deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid, y Llywodraeth wedi gwrando o’r diwedd.

“Rwyf wedi cefnogi ac wedi gweithio’n agos gyda Tracey ar ei hymgyrch ers 2019, ar ôl y camwedd anffodus a brofodd, ac rwy’n gobeithio bod hyn yn nodi cam pwysig tuag at fwy o gydbwysedd rhwng dioddefwyr a throseddwyr.

“Rwyf yn talu teyrnged yn bennaf i Tracey i sicrhau’r newidiadau hyn er mwyn anrhydeddu Josh. Mae hyn yn dystiolaeth i’w hymgyrch hi, ac i’r teuluoedd niferus a safodd gyda hi i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder David Lammy fod angen i ddioddefwyr a’u teuluoedd gael “amser i anadlu” ac i gael cyngor ar ôl unrhyw ddedfryd.

“Mae’r newid hwn yn golygu y bydd ganddyn nhw fwy o amser i wneud hyn – ac yn bwysicaf oll, cael y cyfiawnder y maen nhw’n ei haeddu,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.