Trump yn dweud y bydd lluoedd America yn aros yn y rhanbarth nes bod Iran yn cydymffurfio'n llawn
Mae Donald Trump wedi dweud y bydd lluoedd yr Unol Daleithiau yn aros "yn eu lle" yn y rhanbarth nes bod Iran yn cydymffurfio'n llawn â'r cytundeb cadoediad "go iawn".
Mae Trump wedi dweud os na fydd Iran yn cydymffurfio - "sy'n annhebygol iawn" - y bydd ymateb America yn "fwy, ac yn well, ac yn gryfach nag a welwyd erioed o'r blaen."
Cyhoeddodd yr America ac Iran gadoediad yn hwyr ddydd Mawrth, ond bu adroddiadau gwrthgyferbyniol am yr hyn y cytunodd Iran arno mewn gwirionedd.
Mae Trump yn mynnu bod y cytundeb yn cynnwys "dim arfau niwclear", ac ailagor Culfor Hormuz, ond mae statws y sianel longau allweddol yn aneglur.
Ddydd Mercher, fe ddywedodd Iran wrth longau fod y culfor "yn parhau ar gau", tra bod y Tŷ Gwyn yn mynnu bod "cynnydd" wedi bod mewn traffig.
Dywedodd llefarydd ar ran senedd Iran fod tair rhan o gadoediad America ac Iran eisoes wedi'u "torri'n agored ac yn glir", gan gynnwys y rhan o'r cadoediad sy'n ymwneud â Libanus.
Dywedodd Pacistan - a gyfryngodd at y cadoediad - fod Libanus wedi'i gynnwys yn y cytundeb. Ond parhaodd Israel i ymosod o'r awyr, gan ladd 182 o bobl yn y wlad ddydd Mercher yn ôl gweinyddiaeth iechyd y wlad.