Teyrngedau i ddyn fu farw wedi digwyddiad yn y Barri
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn 61 oed fu farw yn dilyn digwyddiad yn y Barri yn oriau mân y bore ddydd Gwener.
Mae marwolaeth y dyn mewn eiddo ar West Walk yn y dref yn cael ei drin fel achos o lofruddiaeth, gyda Heddlu'r De yn cadarnhau ddydd Gwener fod dyn 53 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.
Mae teulu Robert Farley, oedd yn dod o'r Barri, wedi ei ddisgrifio fel dyn "addfwyn, heddychlon a chariadus".
Mewn datganiad, dywedodd merch Mr Farley: "Cafodd Bobby yr enw ‘y dyn tawel’ gan y rhai oedd yn ei adnabod.
“Mae hyn yn portreadu ei bersonoliaeth yn dda, roedd yn ddyn addfwyn, heddychlon a chariadus.
"Yn gynharach yn ei fywyd roedd yn weithgar, yn gymdeithasol iawn ac yn boblogaidd.
"Roedd gan Bobby ei frwydr ei hun gydag alcohol, fe geisiodd sawl gwaith i oresgyn hyn gyda chefnogaeth gan ei ffrindiau a’i deulu.
"Roedd yn fab, yn frawd, yn dad i Michele ac yn dad-cu i 3 o fechgyn arbennig.
"Mae ein calonnau wedi llenwi gyda galar a thristwch yn dilyn marwolaeth ein tad, ein taid a'n ffrind. Bydd ein hatgofion o fy nhad yn byw yn ein calonnau am byth o’r dyn bywiog, carismatig, hwyliog a charedig yn ein bywydau.”
Mae'r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George: "Rwy'n apelio i'r gymuned leol a allai gynnig gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd amheus yn ardal West Walk yn y Barri a'r cyffiniau, yn enwedig rhwng nos Lun, 30 Awst ac oriau mân y bore yma (dydd Gwener 3 Medi).
“Waeth pa mor ddibwys ydych chi'n credu y gallai unrhyw wybodaeth fod, cysylltwch â ni. Hoffwn ddiolch i’r rheini yn y gymuned sydd wedi cyflwyno gwybodaeth hyd yn hyn."
Mae'r heddlu'n annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth ynghylch y digwyddiad i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2100309626.