Arestio dyn ar ôl i ddynes ddioddef anafiadau difrifol
04/09/2021
Heddlu.
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddynes gael ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn Rhondda Cynon Taf.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Stryd Meyler, Tonyrefail am tua 12:50 brynhawn Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod dynes yn anymwybodol.
Fe gafodd y ddynes 33 oed ei chludo i'r ysbyty, ble mae hi'n cael ei hasesu a'i thrin am anafiadau difrifol.
Mae dyn 36 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn y digwyddiad.
Mae'r Heddlu De yn apelio am wybodaeth ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2100311367.