Starmer i gyfarfod ag arweinwyr busnes wrth i Trump ystyried cipio ynys yn Iran
Bydd arweinwyr busnesau ynni a bancio yn cwrdd â Syr Keir Starmer wrth i Donald Trump awgrymu y gallai rhyfel Iran waethygu.
Mae prisiau olew wedi cynyddu'n sydyn ar ôl i Arlywydd America ddweud ei fod yn ystyried cipio Ynys Kharg, un o brif ganolfannau olew Iran.
Mae disgwyl i drafodaethau yn Downing Street ganolbwyntio ar reolaeth parhaus Iran o Gulfor Hormuz, sydd wedi amharu ar lwybr masnach llongau hanfodol i'r diwydiant olew a nwy yn ogystal â chyflenwadau o gynhyrchion eraill, gan gynnwys gwrtaith.
Bydd y cyfarfod yn cynnwys cynrychiolwyr o gwmnïau ynni Shell a BP, y cwmni llongau Maersk, yr arbenigwr yswiriant morwrol Lloyd’s of London a’r banciau HSBC a Goldman Sachs.
Dywedodd Downing Street mai nod y cyfarfod yw clywed gan fusnesau a thrafod sut y gall y llywodraeth a'r sector breifat gydweithio wrth ymateb i'r gwrthdaro.
Daw'r cyfarfod ar ôl i Trump ddweud y gallai "gymryd yr olew yn Iran" neu ystyried cipio'r Ynys Kharg.
"I fod yn onest gyda chi, fy hoff beth yw cymryd yr olew yn Iran ond mae rhai pobl dwp yn ôl yn yr Unol Daleithiau yn dweud: 'Pam ydych chi'n gwneud hynny?' Ond maen nhw'n bobl dwp," meddai wrth bapur newydd y Financial Times.
Ychwanegodd: "Efallai y byddwn ni'n cymryd Ynys Kharg, efallai na fyddwn ni. Mae gennym ni lawer o opsiynau."
Fodd bynnag, mae Trump wedi cydnabod y byddai gwneud hynny'n gofyn iAmerica aros yn Iran "am gyfnod".
Mae'r gwrthdaro wedi gadael Prydain yn wynebu'r risg o chwyddiant uwch a thwf is.
Mae prisiau petrol eisoes wedi codi'n sydyn, tra bod ansefydlogrwydd yn y cyflenwad olew byd-eang wedi arwain rhai gwledydd sy'n datblygu i osod cyfyngiadau ar ddefnydd tanwydd, gan godi pryderon y gallai'r prinder ledaenu i'r DU.
Fe wnaeth pris olew crai godi mwy na 3% fore Llun i $117 y gasgen - yr uchaf ers 2022.
Mae disgwyl i'r Canghellor Rachel Reeves a'r Ysgrifennydd Ynni Ed Miliband ymuno â'r cyfarfod rhithiol o weinidogion cyllid ac ynni'r G7, ac arweinwyr busnes ddydd Llun, er mwyn trafod sut i ymateb i effeithiau economaidd y rhyfel.