Michael Sheen i serennu yng nghyfres Celebrity Traitors, yn ôl adroddiadau
Fe fydd yr actor Michael Sheen yn rhan o gyfres nesaf Celebrity Traitors, yn ôl adroddiadau.
Fe fydd y Cymro 57 oed yn un o “enwau mawr” yr ail gyfres, yn ôl adroddiad gan bapur newydd The Sun.
Mae'r gyfres boblogaidd gan y BBC yn gosod her i 'ffyddloniaid' geisio dod o hyd i 'fradwyr' drwy gwblhau nifer o heriau yn ystod y gyfres.
Celebrity Traitors oedd y gyfres deledu fwyaf poblogaidd yn 2025, gyda 15 miliwn o bobl yn gwylio’r bennod olaf wrth i’r comediwr a’r ‘bradwr’ Alan Carr ennill y gystadleuaeth.
Daw’r adroddiadau wedi i Mr Sheen, a gafodd ei fagu ym Maglan, Port Talbot, gael ei gadarnhau fel cyflwynydd newydd y gyfres gwis gan y BBC, House of Games, yr wythnos diwethaf.
Fe fydd yn olynu Richard Osman, sy'n gadael y gyfres.
Daeth cyhoeddiad ym mis Ionawr hefyd y bydd yr actor Hollywood yn cyflwyno cyfres ffeithiol newydd gan y BBC, yn ymchwilio i'r honiadau bod cemegau gwenwynig yn agos i'r lle y cafodd o ei fagu yn ne Cymru.
Mae Mr Sheen hefyd wedi bod yn perfformio yng nghynhyrchiad cyntaf Welsh National Theatre, sef y sioe Our Town.
Fe sefydlodd y cwmni y llynedd gan gyfrannu swm sylweddol o arian gyda’r nod o “greu gwaith o safon fyd-eang o Gymru a’i gludo i’r byd”.
