Breuddwyd Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd yn dod i ben

Daniel James of Wales celebrates scoring a goal

Mae breuddwyd Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd wedi dod i ben, ar ôl colli 2-4 ar giciau o'r smotyn yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn y brifddinas nos Iau.

1-1 oedd y sgôr wedi 120 munud o chwarae, ar ôl gôl wefreiddiol gan Dan James i Gymru, cyn i Edin Dzeko unioni'r sgôr ychydig cyn diwedd y 90.

Yr Eidal fydd gwrthwynebwyr Bosnia yn rownd derfynol y gemau ail gyfle nos Fawrth ar ôl iddyn nhw guro Gogledd Iwerddon 2-0.

Wrth i 'Yma o hyd' floeddio drwy'r stadiwm cyn y chwiban gyntaf, roedd y dorf yn disgwyl yn eiddgar i weld Cymru'n mynd gam mawr yn nes at Gwpan y Byd.

Fe ddechreuodd Cymru ar dân yn y munudau cyntaf, gyda chic rydd gyntaf y noson yn dod wedi dau funud. Cic Harry Wilson yn cyrraedd y cwrt cosbi ond yr ymdrech yn ofer.

Daeth ail gic rydd ddau funud yn ddiweddarach wedi trosedd ar Brennan Johnson - a cherdyn melyn i Amar Memic gan y dyfarnwr István Kovács o Rwmania.

Dechrau hyderus i Gymru, yn chwarae'n fwriadol gyda thempo cyflym.

Gyda 10 munud wedi mynd fe frwydrodd Bosnia a Herzegovina yn ôl yn araf - gyda dau dafliad hir yn creu ychydig o drafferth i Gymru.

Roedd Cymru'n credu eu bod yn haeddu cic o'r smotyn wedi 21 o funudau, ar ôl i Harry Wilson ddisgyn yn y cwrt cosbi, ond doedd dim trosedd meddai'r dyfarnwr.

Chwip o ergyd 

Funudau'n ddiweddarach fe ddaeth cyfle gwych i Wilson ar ôl iddo grymanu cic o ochr y cwrt cosbi, a'r bêl yn taro'r bar. 

Roedd Cymru yn bwyllog ac yn rheoli'r chwarae gyda hanner awr wedi mynd. 

Wedi 35 munud fe ddaeth dwy gic gornel i Gymru yn syth ar ôl ei gilydd - ond fe lwyddodd Bosnia i glirio eu llinellau.

Image
Harry Wilson of Wales is challenged by Amar Memic of Bosnia
Harry Wilson yn cael ei herio gan Amar Memic

Daeth ail gerdyn melyn y noson i'r ymwelwyr wedi 36 o funudau - enw Ermedin Demirovic y tro hwn yn mynd i lyfr y dyfarnwr am dacl hwyr ar Dan James.

Yn fuan wedyn daeth cerdyn melyn arall allan - Sead Kolasinac y tro hwn yn troseddu. Fe geisiodd Wilson dwyllo'r golwr gyda chic gosb sydyn, ond y golwr yn ei harbed. 

0-0 oedd y sgôr ar yr hanner.

Bu bron i Gymru wneud traed moch ohoni yn fuan ar ddechrau'r ail hanner - gydag Ethan Ampadu a Karl Darlow yn camddeall ei gilydd wrth geisio chwarae o'r cefn yn y cwrt cosbi.

Gôl wefreiddiol Dan James 

Wedi 50 munud ar y cloc, fe sgoriodd Dan James gôl wefreiddiol fydd yn aros yn y cof am amser hir i ddod. Roedd ar ei ben ei hun ar yr asgell dde yn rhedeg rhwng dau chwaraewr Bosnia, cyn penio'r bêl i lawr a chymryd chwip o ergyd o 30 llath.

Daeth cyfle gwych arall i James wyth munud yn ddiweddarach gyda Chymru'n manteisio ar y bylchau oedd yn ymddangos yng nghanol y cae. Llwyddodd i fynd heibio un amddiffynnwr cyn taro'r bêl yn erbyn y trawst.

Roedd Bosnia a Herzegovina yn brwydro'n ôl, a bu ond y dim iddyn nhw sgorio wedi awr o chwarae - ond fe lwyddodd Karl Darlow i wneud arbediad penigamp.

Fe wnaeth yr ymwelwyr eilyddio - Benjamin Tahirovic yn lle Basic a Kerim Alajbegovic yn camu ar y cae wrth i Sead Kolasinac adael.

Image
Jay Dasilva of Wales is challenged by Esmir Bajraktarevic of Bosnia.
Jay Dasilva yn wynebu Esmir Bajraktarevic

Gydag 20 munud ar ôl fe welodd Liam Cullen gerdyn melyn am dacl ar Ermedin Demirovic. Daeth cyfle Kerim Alajbegovic yn fuan wedyn ond roedd Darlow yn barod am ei ergyd.

Wedi 73 o funudau fe gafodd David Brooks ei eilyddio am Mark Harris, gyda'r Wal Goch yn bloeddio eu cefnogaeth i Brooks wrth iddo adael y cae.

Daeth dihangfa lwcus iawn i Gymru wedi 75 munud - Esmir Bajraktarevic yn croesi gyda Ermedin Demirovic yn rhydd ond fe fethodd a chysylltu gyda'r bêl o fodfeddi.

Funudau'n ddiweddarach daeth cyfle i Harry Wilson ond roedd ei ergyd yn rhy uchel. 

Gyda 10 munud i fynd daeth cyfle arall i'r ymwelwyr - Kerim Alajbegovic y tro hwn yn ergydio, ond aeth y bêl dros y trawst.

Edin Dzeko'n unioni'r sgôr

Daeth torcalon i Gymru gyda llai na phedwar munud yn weddill - Edin Dzeko yn neidio i gyrraedd y bêl gyntaf o gic gornel. Tawel iawn oedd ei gyfraniad wedi bod drwy'r noson - ond pan ddaeth yr eiliad dyngedfennol roedd yn y safle cywir i unioni'r sgôr. 

Cymru 1-1 Bosnia a Herzegovina wedi 90 munud - gyda phum munud ychwanegol am anafiadau.

Bu bron i Gymru sgorio o gic gornel wedi 91 munud ond fe fethwyd y cyfle. 1-1 ar ddiwedd y chwarae felly, cyn amser ychwanegol.

Daeth cyfle gwych i Harry Wilson ar ôl croesiad gan Sorba Thomas gyda 94 munud ar y cloc - mor agos ond y bêl yn cael ei phenio i ffwrdd.

Roedd Sorba Thomas yn rheoli'r chwarae ar yr asgell gydag amddiffynwyr yr ymwelwyr yn blino.

Daeth cyfle i Ethan Ampadu oedd wedi angori ei hun tu allan i'r cwrt cosbi gyda munud yn weddill o'r 15 cyntaf - ond aeth y cyfle heibio. 

1-1 oedd hi wedi hanner ffordd drwy'r amser ychwanegol. Roedd angen ymdrech arwrol am 15 munud arall gan y crysau cochion.

Cafodd Edin Dzeko gerdyn melyn am ddod allan o'r ardal dechnegol ar ochr y cae, gyda'r ymwelwyr yn lladd y momentwm yn y munudau olaf.

Roedd na goesau trwm ar y cae, gyda nifer o'r ymwelwyr dioddef cramp, gan achosi oedi i'r chwarae. Cafwyd pedwar munud o chwarae ar ben y cyfnod ychwanegol.

Bu ond y dim i Johnson sgorio yn yr eiliadau olaf o chwarae - ac fe aeth ergyd Sorba Thomas yn rhy uchel i wneud gwahaniaeth yn fuan wedyn.

Ciciau o'r smotyn felly i wahaniaethu rhwng y ddau dîm.

Yr ymwelwyr ddaeth i'r brig a hynny o 2-4 ar ôl i Neco Williams a Brennan Johnson fethu a rhwydo.

Ffordd greulon iawn i orffen ymgyrch - a Chymru wedi chwarae mor dda ar y noson.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.