‘Fy nghalon yn brifo’: Beth fydd nesaf i Craig Bellamy?
Mae ansicrwydd dros ddyfodol Craig Bellamy fel rheolwr Cymru, yn ôl rhai arbenigwyr, wedi i Gymru fethu allan ar Gwpan y Byd 2026.
Colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Bosnia a Herzegovina oedd hanes Cymru yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle nos Iau.
Wrth siarad ar ôl y golled, dywedodd Bellamy ei fod yn teimlo bod ei dîm wedi haeddu mynd drwodd i’r rownd derfynol yn erbyn yr Eidal, ar ôl creu nifer o gyfleoedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
"Mae fy nghalon i’n brifo dros y chwaraewyr," meddai mewn cyfweliad gyda Sgorio.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/2037307440127959387?s=20
"Dwi’n teimlo mor ddiolchgar i’w cael nhw. Dwi’n ddiolchgar fy mod i ‘di cael y grŵp yma o chwaraewyr yn fy ngham cyntaf o fod yn rheolwr. Yn sicr, dwi’n hynod siomedig drostyn nhw.
"Mae'n rhaid i ni deimlo’r siom nawr, ac fe wna i adael iddo fy mrifo a does dim amheuaeth ei bod yn brifo’r chwaraewyr, ond fory, mae’r haul yn gwawrio ac mae’n rhaid i ninnau godi hefyd."
'Nid dyma'r diwedd'
Fe aeth ymlaen i ddweud mai "nid dyma'r diwedd" i'r chwaraewyr.
"Mae’r grŵp yma a beth sydd o’u blaenau am y ddwy flynedd nesaf, mae’n amser da iawn i fod yn bêl-droediwr Cymreig. Dwi wedi siomi ar eu rhan nhw nad oedden ni’n gallu mynd i ddau Gwpan y Byd yn olynol, ond mae'n rhaid i ni symud ymlaen nawr," meddai.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2037297795216871548?s=20
"Nid dyma’r diwedd. Mae’r gallu gan y tîm yma i wneud rhywbeth arbennig, a dwi’n credu eu bod am wneud hynny."
Roedd rhai o gyn chwaraewyr Cymru yn anghytuno dros drywydd Bellamy wedi'r canlyniad nos Iau.
Dros y misoedd diwethaf, mae sawl adroddiad wedi bod fod Celtic, cyn glwb Bellamy, wedi dangos diddordeb yn ei benodi fel rheolwr y clwb.
Ym mis Ionawr, fe ddywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, nad oedd ymgais swyddogol wedi ei wneud gan y clwb i'w ddenu i Glasgow, ond fe wnaeth gydnabod bod gan glybiau "ddiddordeb" mewn Bellamy.
Wrth drafod y pwnc, dywedodd cyn chwaraewr canol cae Cymru, Owain Tudur Jones: "O’n i'n eitha onest ar ddechrau’r ymgyrch a dwi dal yn teimlo hyn - swn i’n synnu os fysa Craig Bellamy yn aros ymhellach na’r ymgyrch yma.
"A’r prif reswm ydi, dwi’n meddwl fod o’n brif reolwr da iawn ag am y rheswm yna, mae 'na glybiau mawr yn mynd i ddod ar ei ôl o.
"Dyna 'di’r teimlad sydd gen i felly pwy a ŵyr be ddigwyddith. Mae ganddo fo benderfyniadau mawr i wneud, hyd yn oed os mae’n penderfynu rŵan - dwi isho aros.
"Gawn ni weld achos mae ‘na fisoedd hir o’n blaenau ni o ddisgwyl, ac yn anffodus o wylio Cwpan y Byd."
Anghytuno gwnaeth gyn ymosodwr Cymru, Gwennan Harries: "So’ fi’n gweld e’n gadael. Fi’n teimlo fel bod e’n adeiladu rhyw fath o prosiect.
"O ystyried faint o chwaraewyr mae fe ‘di defnyddio dros yr amser mae 'di bod wrth y llyw, dros 30 o chwaraewyr, mae’n trio adeiladu’r dyfnder, y steil, y patrwm chwarae, yr arddull, oedd yn angerddol iawn y ffordd oedd e’n siarad o flaen pawb.
"Mae neb byth yn gwybod be' mae’n mynd i ddweud a bydd e’n ddiddorol clywed teimladau fe, ond fyswn i’n synnu gweld e’n gadael dros yr haf."
Prif lun: Craig Bellamy a'i chwaraewyr ar ôl y golled yn erbyn Bosnia a Herzegovina gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru
