Teyrnged i fenyw 'anhygoel' 23 oed a fu farw ar ffordd yr A470
Mae teulu i fenyw 23 oed o Rydaman a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ddydd Mawrth wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Ellé Claire Evans yn y gwrthdrawiad rhwng Doldowlod a Rhaeadr am tua 14:30.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei theulu: "Roedd ein merch brydferth, anhygoel, glyfar a gwyrthiol Ellé Claire Evans yn rhan o wrthdrawiad yn 23 oed ac mae hi bellach wedi gadael y byd hwn i dreulio gweddill ei hoes gyda’i Harglwydd a’i Hiachawdwr.
"Rhoddodd Ellé bopeth i helpu’r rhai o’i chwmpas ym mhob ffordd y gallai ac fel teulu, rydym wedi ein llorio gan y golled hon.
"Fel teulu rydym ni'n parhau i brosesu'r golled, y boen a'r galar, ond hefyd yn ceisio diolch am y rhodd oedd gennym ni yn Ellé a'r llawenydd yr oedd hi'n dod i'n calonnau.
"Rydym ni'n dy fethu di'n barod, yn dy garu am byth ac fe fyddi di yn ein calonnau a'n hatgofion am byth."
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i apelio am wybodaeth ac yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20260324-197.