Colli 89 o swyddi wrth i ffatri 3M ger Abertawe gau

3M
Mae perchnogion ffatri, 3M, yn ardal Gorseinon yn Abertawe wedi cadarnhau y bydd 89 o bobl yn colli eu swyddi wrth i'r safle gau.
Yn ôl Wales Online, fe gyhoeddodd y cwmni, sydd yn wreiddiol o'r UDA, bod eu cyfnod o ymgynghori gyda'u gweithwyr wedi dod i ben ddydd Gwener.
Daw hyn ddeufis ar ôl i'r perchnogion gyhoeddi y byddai eu ffatri ym Mhenlle'r-gaer yn cau. Dyma oedd safle mwyaf y cwmni y tu allan i'r UDA.
Mae disgwyl i weddill gwaith gweithgynhyrchu'r ffatri symud i safleoedd eraill y cwmni ledled y byd, gan gynnwys un ym Mangor, Gogledd Iwerddon.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Google