Y Bandana i ailffurfio ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las

Y Bandana

Fe fydd y grŵp roc, Y Bandana, yn ail-ffurfio yn arbennig ar gyfer perfformiad yn Eisteddfod y Garreg Las eleni.

Ar ôl 10 mlynedd o seibiant, fe fydd y pedwar aelod gwreiddiol yn camu ar Lwyfan y Maes ar nos Wener yr Brifwyl.

Dyma fydd eu perfformiad cyntaf ar Faes yr Eisteddfod ers Eisteddfod Y Fenni yn 2016.

Gyda chyfanswm o 17 o berfformiadau ym Maes B ac ar lwyfannau perfformio’r Eisteddfod dyma un o’r bandiau sydd wedi ymddangos amlaf yn y Brifwyl.

Dywedodd Sion Owens, gitarydd bas y band eu bod yn "edrych ymlaen yn fawr iawn" at y perfformiad.

"Ein bwriad ydi mynd a’r gynulleidfa nôl mewn amser gan greu set lawn nostalgia.

"Dyma gyfle i ni gael ail fyw a dathlu diniweidrwydd ieuenctid a’i ddod â fo i genhedlaeth newydd hefyd, gyda’r gobaith o greu atgofion a chael lot o hwyl yn gwneud hynny.

Yn ôl Sion, er bod degawd wedi pasio ers gig olaf y band, roedd yn rhyfedd o hawdd i ddod yn ôl fel grŵp: “Wrth ymarfer, mae wedi bod yn hyfryd cael gwneud sŵn efo'r hogia eto. ‘Da ni’n sicr fydda ni'n rhoi sioe i’w chofio i bawb ar y noson.

Ychwanegodd: “Ma’r Eisteddfod wedi newid dros y ddegawd diwetha. Ma’ Llwyfan y Maes yn fwy o beth ac mae perfformiadau rhai o’r bandiau yn uchafbwynt yr wythnos i lawer erbyn hyn. 

"Mae’n fyd arall i sut roedd petha pan oedda ni’n chwarae ar yr hen lwyfan perfformio - felly ‘da ni’n edrych mlaen i gael chwarae ar y llwyfan mawr proffesiynol sydd yna erbyn heddiw.”

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Rydyn ni’n hynod falch o allu cadarnhau heddiw bydd y Bandana yn cloi nos Wener ar y Llwyfan. Gyda rhes o ganeuon poblogaidd yn rhan o’u casgliad – maen nhw yn siŵr o ddenu ac apelio at gynulleidfa eang.

"Mi fydd eu perfformiad yn ffordd wych o ddathlu ein wythnos yn Sir Benfro.”

Mae disgwyl cyhoeddiadau pellach am berfformiadau ac artistiaid yn ystod y Brifwyl yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.