Person wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion

a482.jpg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth wedi i berson farw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion ddydd Mawrth. 

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A482 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Chiliau Aeron am tua 21:30 nos Fawrth.

Roedd dau gar yn rhan o'r gwrthdrawiad, sef Renault Clio du a Peugeot 208 du. 

Bu farw gyrrwr y Clio yn y fan a'r lle yn ôl yr heddlu. 

Mae teulu'r unigolyn wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol. 

Fe gafodd y ffordd ei chau ar gyfer ymchwiliad cyn cael ei hail-agor am 05:30 ddydd Mercher. 

Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.