Trydydd cyn-swyddog S4C yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y darlledwr
Mae trydydd cyn-swyddog gydag S4C yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn ei chyn-gyflogwr.
Amanda Rees yw'r trydydd cyn-aelod o dîm rheoli'r darlledwr cyhoeddus i ddwyn achos yn erbyn S4C yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Doedd S4C ddim am wneud sylw am yr hawliad diweddaraf.
Pan siaradodd rhaglen Newyddion S4C gydag Amanda Rees, doedd hi chwaith ddim am wneud sylw.
Yn ôl dogfennau cyhoeddus, cofnodwyd hawliad ganddi yn erbyn S4C am anaf personol yn yr Uchel Lys ym mis Chwefror eleni.
Dyw'r dogfennau sydd yn amlinellu union fanylion ei chwyn ddim ar gael yn gyhoeddus eto.
Mae Amanda Rees wedi bod yn ffigwr amlwg yn y byd darlledu yng Nghymru a thu hwnt.
Roedd yn uwch-gynhyrchydd gyda chwmni Greenbay cyn sefydlu ei chwmni cynhyrchu ei hun oedd yn arbenigo mewn rhaglenni dogfen i amryw o ddarlledwyr gan gynnwys Channel 4.
Cyfarwyddwr Cynnwys
Yn 2016, ymunodd ag S4C fel cyfarwyddwr cynnwys cyn dod yn gyfarwyddwr platfformau i'r darlledwr.
Ar ôl gadael S4C, bu'n aelod o sawl sefydliad amlwg ym myd darlledu, gan gynnwys dod yn gyfarwyddwr anweithredol ar bwyllgor ymgynghorol Cymreig Ofcom ac yn gadeirydd Ffilm Cymru.
Dyma'r achos cyfreithiol diweddaraf i S4C wedi iddi wynebu hawliadau cyfreithiol amlwg gan ei chyn-brif weithredwr a'r cyn brif swyddog cynnwys dros y blynyddoedd diwethaf.
Diswyddwyd Sian Doyle o'i swydd fel prif weithredwr ym mis Tachwedd 2023 ar ôl cael ei chyhuddo o "ymddwyn fel unben" ac o "greu diwylliant o ofn".
Ar y pryd, dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "adnabod nac yn derbyn yr honiadau".
Wedi i Sian Doyle ddwyn hawliad anaf personol yn erbyn S4C a'r cyn-gadeirydd Rhodri Williams, setlwyd yr achos y llynedd.
Dyw cost y setliad heb ei ddatgelu yn gyhoeddus a doedd dim un o'r partion yn cydnabod unrhyw fai.
Mae achos arall, ar wahân i'r hawliadau eraill, gan gyn bennaeth cynnwys y darlledwr yn parhau.
Honiad o gamymddwyn
Diswyddwyd Llinos Griffin-Williams yn 2023 am gamymddwyn difrifol wedi honiadau iddi fod yn feddw ac ymosod yn eiriol ar gyn-fewnwr Cymru Mike Phillips tra yn ymweld a Chwpan Rygbi'r Byd yn Nantes fel rha n o'i gwaith.
Mae Ms Griffin-Williams yn gwadu ymddwyn "mewn modd sydd yn gyfystyr a chamymddwyn difriufol mewn man cyhoeddus" ac yn dweud y bydddai wedi gwadu hynny petai hi wedi cael cyfle i ymateb.
Mae nawr yn hawlio £565,000 mewn colledion a symiau anhysbys pellach am niwed i'w henw da, ei hiechyd a'i theimladau.
O ran achos Ms Griffin-Williams, dywedodd llefarydd ar ran S4C y llynedd eu bod eisoes wedi cyflwyno amddiffyniad i'r llys ac na fyddai'n briodol i wneud sylw pellach ar honiadau sydd heb gael eu clywed eto mewn achos llys.
Dywedodd hefyd bod yr honiadau'n deillio o gyfnod dros ddwy flynedd yn ôl, ac ers hynny bod S4C "wedi bod trwy gyfnod o drawsnewid o ran llywodraethant, rheolaeth a diwylliant i sicrhau bod yma weithle iach lle gall pawb ffynnu".