Cynlluniau ‘mentrus’ ar gyfer ail ddatblygu maes Sain Helen
Mae Cyngor Dinas Abertawe a’r Gweilch wedi cyhoeddi cynlluniau “mentrus” ar gyfer ail-ddatblygu maes chwaraeon Sain Helen.
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y cyngor a’r Gweilch eu bod nhw ar fin lansio “cyfnod newydd mentrus i rygbi o safon a chymunedol gyda buddsoddiad mawr yn y maes hanesyddol”.
Mae’r cynnig yn goilygu trawsnewid Sain Helen gan gynnwys wyneb chwarae artiffisial 4G fyddai’n cael ei ddefnyddio gan Y Gweilch mewn gemau ac ymarfer, a hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Glwb Rygbi Abertawe ac ysgolion, clybiau a grwpiau cymunedol lleol.
O dan y cynlluniau ar y cyd, fe fydd Cyngor Abertawe yn ariannu diweddariadau allweddol cymunedol gan gynnwys y cae a llifoleuadau gyda’r Gweilch yn darparu gwelliannau proffesiynol fel esiteddle newydd, ardal i gefnogwyr a chyfleusterau darlledu.
'Dyfodol wedi'i ohirio'
Mae Bwrdd Cymunedol Rygbi Abertawe yn cael ei argymell ac mae cyn-gapten Cymru Alun Wyn Jones wedi cytuno i weithio gyda’r cyngor i sicrhau fod y buddiannau i rygbi llawr gwlad a’r gymuned yn cael eu gwireddu.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Rob Stewart: "Mae dyfodol Sain Helen wedi'i ohirio oherwydd trafodaethau parhaus am rygbi rhanbarthol yng Nghymru sy'n annhebygol o ddod i ben yn fuan.
“Nid yw Undeb Rygbi Cymru yn rhoi'r atebion sydd eu hangen arnom i symud ymlaen er gwaethaf ein ceisiadau, megis sut y gall Y11 fod yn berchen ar ddau dîm am gyfnod hir o amser.
“Yng ngoleuni'r EGM sydd ar ddod, rwy'n amau bod yr URC yn gwybod ble mae'n mynd.
Dywedodd cyfarwyddwr y Gweilch, Rob Davies: "Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Abertawe am lawer o fisoedd ar adnewyddu Sain Helen.
"Rydym wrth ein boddau ein bod wedi canfod ffordd i nid yn unig symud ymlaen gyda'n cynlluniau i chwarae yn ôl yn Abertawe o'r tymor nesaf, ond hefyd i wella ymhellach y gwaith yr ydym wastad wedi'i wneud yn ein cymuned."
Fe fydd y cynnig yn cael ei drafod gan gabinet y cyngor ddydd Mercher, Mawrth 25. Os cytunir, gallai'r gwaith ddechrau ym mis Ebrill fel y gallai'r Gweilch ddefnyddio'r stadiwm y tymor nesaf.
Mae achos cyfreithiol y cyngor yn erbyn y fargen a gynigiwyd gan Undeb Rygbi Cymru ar gyfer Y11 i brynu Rygbi Caerdydd yn parhau.