Mohammed Salah i adael Lerpwl

Llun: PA
Mohammed Salah

Mae'r chwaraewr pêl-droed Mohamed Salah wedi cyhoeddi y bydd yn gadael clwb Lerpwl ar ddiwedd y tymor.

Cyhoeddod y chwaraewr 33 oed o'r Aifft ei benderfyniad mewn fideo ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Ymunodd â'r clwb yn 2017 o Roma ac mae wedi sgorio 255 o goliau ac ennill Cynghrair y Pencampwyr, Uwch Gynghrair Lloegr, Cwpan yr FA a Chwpan y Gynghrair yn ystod ei gyfnod ar Lannau Mersi.

"Yn anffodus mae'r diwrnod wedi dod. Dyma ran gyntaf y ffarwelio," meddai.

"Byddaf yn gadael Lerpwl ar ddiwedd y tymor."

Ychwanegodd Salah fod y clwb yn "rhan fawr o'i fywyd" ers iddo ymuno naw mlynedd yn ôl.

"Doeddwn i erioed wedi gallu dychmygu pa mor bwysig y byddai'r clwb, y ddinas a'r bobl yn fy mywyd. Mae Lerpwl yn fwy na chlwb pêl-droed. Mae'n angerdd, hanes, ac ysbryd.

"Dwi methu egluro mewn geiriau i rywun sydd ddim yn rhan o'r clwb. Roeddem wedi dathlu buddugoliaeth, wedi ennill y tlysau pwysicaf ac wedi brwydro gyda'n gilydd yn ystod y cyfnodau anodd yn ein bywydau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.