Apêl am wybodaeth wedi tân yng Nghydweli

24/03/2026
Tan

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn tân ar drydydd llawr tŷ teras yng Nghydweli yn gynnar fore dydd Mawrth.

Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw ychydig wedi 04:00 yn dilyn adroddiad am dân ar Stryd y Foneddiges yn y dref.

Ar hyn o bryd mae'r tân yn cael ei drin fel un anesboniadwy, ac mae'r ffordd yn parhau ar gau. 

Mae disgwyl iddi fod ar gau am beth amser.

Aeth criwiau o orsafoedd tân Cydweli, Pont-iets, Llanelli, Treforys, Y Tymbl, Caerfyrddin a Phort Talbot i'r digwyddiad.

Mewn datganiad, dywedodd y Gwasanaeth Tân: "Defnyddiodd y criwiau wyth set o offer anadlu, dau jet rîl pibell, dwy bibell 45mm, pedwar camera delweddu thermol ac offer llai i ddiffodd y tân. 

"Cefnogwyd y criwiau gan bresenoldeb y peiriannau tanc dŵr o orsafoedd tân Y Tymbl a Phort Talbot, yn ogystal â'r peiriant ysgol drofwrdd awyr o Orsaf Dân Treforys.

"Cafodd rhai tai cyfagos eu gwagio a chynghorwyd trigolion eraill i aros dan do tra bod y digwyddiad yn parhau. Gadawodd y criwiau'r lleoliad am 13.45."

Llun: Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.