Newyddion S4C

Cau’r M4 am sawl awr wedi ‘digwyddiad difrifol’

03/09/2021
M4

Mae’r M4 wedi ei hailagor rhwng Abertawe a Llanelli ar ôl bod ar gau am dair awr yn sgil "digwyddiad difrifol" brynhawn dydd Gwener. 

Roedd y ffordd ar gau rhwng cyffyrdd 47 a 48 yn ardal Penllergaer a Phont Abraham i gyfeiriad y gorllewin. 

Cafodd swyddogion eu galw i’r digwyddiad am 11:30 ac fe gafodd ambiwlans awyr a phedwar cerbyd ambiwlans eu hanfon i’r digwyddiad. 

Mae Heddlu De Cymru wedi diolch i gerbydwyr am eu hamynedd tra roedden nhw’n delio â’r digwyddiad.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.