Trump: Gorsafoedd pŵer Iran i gael eu 'dinistrio' os nad yw Culfor Hormuz yn agor
Mae'r Arlywydd Trump wedi dweud y bydd America yn 'dinistrio' gorsafoedd pŵer Iran os nad yw Culfor Hormuz yn agor o fewn 48 awr.
Mae Iran wedi cau'r culfor yn sgil y rhyfel rhwng y wlad ac America ac Israel.
Culfor Hormuz yw un o brif lwybrau masnach strategol y byd ac mae'n hanfodol i ddosbarthu olew, gyda thua 20% o olew a nwy naturiol hylifedig (LNG) yn pasio drwy'r culfor fel arfer.
Mewn datganiad ar ei blatfform Truth Social am 23:44 ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Tump fod gan Iran tan 23:44 ar 23 Mawrth i gwrdd â gofynion yr arlywydd.
"Os nad yw Iran yn agor Culfor Hormuz yn llawn heb fygythiad o fewn 48 awr, fe fydd UDA yn taro a dinistrio eu gorsafoedd pŵer niferus, gan ddechrau efo'r un mwyaf yn gyntaf," meddai.
Dywedodd Tehran y byddai'n targedu safleoedd ynni sy'n gysylltiedig ag UDA ar draws rhanbarth y Gwlff os caiff ei ymosod, yn ôl cyfryngau gwladwriaethol Iran.
Mae prisiau olew wedi cynyddu yn sylweddol yn sgil ymosodiadau Iran ar longau yn y Culfor dros yr wythnosau diwethaf.