Caernarfon: 'Pryder gwirioneddol' wrth i ysgol uwchradd wynebu twll ariannol o £820,000
Mae ysgol uwchradd yng Ngwynedd yn wynebu twll ariannol o £820,000, ac yn dweud y bydd yn rhaid torri lefelau staffio o ganlyniad.
Mewn llythyr at staff sydd wedi dod i law Newyddion S4C, mae Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon wedi dweud bod angen “lleihau lefel staffio’r ysgol yn y flwyddyn gyllidol nesaf".
Mae staff yr ysgol yn cael eu gwahodd i wneud cais am ymddeoliad cynnar neu i leihau eu horiau gwaith.
Dywedodd y llythyr a gafodd ei anfon ar 9 Mawrth wrth y staff: “Gwnaed y penderfyniad ar sail y wybodaeth gyllidol ddiweddaraf sydd i law, sydd yn awgrymu y bydd diffyg yng nghyllideb yr ysgol o oddeutu £820,000.
“Mae'r Panel Cyllid wedi darganfod arbedion posib o dan y gwahanol benawdau yng nghyllideb yr ysgol. Mae'r rhain am gael effaith ar lefel y ddarpariaeth addysgol fydd yn bosib ei gynnal yn yr ysgol i'r dyfodol.”
Ychwanegodd y llythyr: “Mae'r Panel Disgyblu a Diswyddo Staff o'r farn ei bod yn debygol bydd angen lleihau'r lefel staffio mewn rhai meysydd a bod angen delio â'r sefyllfa yn ddiymdroi.”
Mae’r llythyr yn awgrymu bod angen torri oriau sydd gyfwerth â phedwar athro llawn amser, yn ogystal â 37 awr o staffio gweinyddol, 60 awr o staffio cymorthyddion dosbarth, a 37 awr o staffio mewn swyddi ychwanegol.
Mae’r panel yn dweud ei fod wedi cysylltu â’r undebau perthnasol, gan gynghori staff hefyd i gysylltu â'u hundebau er mwyn “derbyn arweiniad ganddynt ar hyd y daith".
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r ysgol wneud toriadau i staffio yn 2025 hefyd, ar ôl iddi adrodd diffyg o £450,000 yn ei chyllideb.
'Pryder gwirioneddol'
Dywedodd y Cynghorydd Cai Larsen, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr yr ysgol wrth Newyddion S4C: “Mae’r heriau ariannol sy’n wynebu Ysgol Syr Hugh Owen yn fater o bryder gwirioneddol i’r Corff Llywodraethol, yn enwedig o ystyried yr effaith bosibl ar ddisgyblion, rhieni a staff.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Awdurdod Addysg i ddeall y sefyllfa’n llawn ac i sicrhau bod unrhyw gamau a gymerir yn rhai cyfrifol, cymesur ac yn diogelu ansawdd y ddarpariaeth addysgol cyn belled â phosibl.
“Ein blaenoriaeth yw lleihau’r effaith ar staff a disgyblion, ac rydym yn ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw wrth i’r sefyllfa ddatblygu.”
Roedd adroddiad monitro gan Estyn fis Chwefror wedi nodi “cynnydd digonol” mewn perthynas ag argymhellion adroddiad craidd yn 2024, oedd wedi datgan fod angen i'r ysgol wneud “gwelliant sylweddol”.
Yn ôl gwefan yr ysgol, mae ganddi 875 o ddisgyblion, 52 aelod o staff addysgu a 34 o staff cefnogol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mater i bob ysgol a’i chorff llywodraethu yw rheoli eu cyllidebau a sicrhau lefelau staffio priodol. Mae amrywiaeth o ffactorau yn pennu lefel benodol cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol.
“Fel Cyngor rydym yn gweithio’n agos ag ysgolion i liniaru unrhyw effaith yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â gweithio’n uniongyrchol gyda unrhyw aelodau staff yr effeithir arnynt.”
Mae Newyddion S4C hefyd wedi cysylltu ag Ysgol Syr Hugh Owen yn uniongyrchol am ymateb.
