'Angen gwelliant sylweddol' ar Ysgol Syr Hugh Owen medd Estyn
Mae angen 'gwelliant sylweddol' ar Ysgol Syr Hugh Owen yng Ngwynedd yn ôl adroddiad gan gorff arolygu Estyn.
Mae'r adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher yn dweud y bydd tîm o arolygwyr Estyn yn ymweld â'r ysgol i fonitro cynnydd tua 12-18 mis ar ôl cyhoeddi'r adroddiad.
Fe gafodd yr arolygiad yn yr ysgol ei gynnal ym mis Ebrill eleni.
Mae gan Ysgol Syr Hugh Owen 926 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda 139 ohonynt yn y chweched dosbarth.
Mae 89.6% o ddisgyblion yr ysgol yn siarad Cymraeg yn y cartref.
Dywedodd yr adroddiad fod disgyblion yr ysgol yn rhai "croesawgar a chynnes" ac yn "aelodau bach o'u cymuned leol".
Mae'r mwyafrif yn dweud nad ydynt yn cael eu bwlio, a llawer yn teimlo yn ddiogel yn yr ysgol.
Er bod presenoldeb disgyblion wedi gwella eleni, mae'n parhau i fod yn "destun pryder", yn enwedig i ddisgyblion bregus a'r rhai sy'n gymwys i brydau ysgol am ddim.
Ychwanegodd yr adroddiad fod disgyblion yn gwneud cynnydd "sydd o leiaf yn addas" yn y mwyafrif o wersi, ond nad yw disgyblion yn gwneud dison o gynnydd yn y lleiafrif o wersi, a hynny yn sgil diffygion yn yr addysgu.
Yn ôl yr adroddiad, nid oes "goruchwyliaeth ddigon tynn" yn y maes cefnogi lles disgyblion nac nid yw'r ddarpariaeth ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn "ddigon datblygiedig".
Mae'r adroddiad yn cydnabod fod arweinwyr yn llwyddiannus o ran "hybu ymdeimlad cryf o Gymreictod a theimlad o berthyn i'r ardal leol".
Ond dywed yr adroddiad: "Mae’r uwch dîm rheoli’n gweithio’n gydwybodol, ond mae gormod o orgyffwrdd o ran eu cyfrifoldebau ac nid yw bob amser yn glir pwy sydd â chyfrifoldeb strategol am feysydd penodol.
"Mae’r ysgol yn rhannu gwybodaeth am drefniadau’r ysgol yn briodol ond nid yw rhieni na staff bob amser yn teimlo bod cyfathrebu yn ddigon effeithiol."
Mae Estyn yn argymell bod angen gwella'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a disgyblion bregus, yn ogystal â chryfhau arweinyddiaeth strategol a gwella presenoldeb disgyblion.
Beth nesa' i Ysgol Syr Hugh Owen?
Yn unol â Deddf Addysg 2005, gan fod y PAEF (Prif Arolygydd Ei Fawrhydi) o’r farn bod angen gwelliant sylweddol ar yr ysgol, fe fydd yr ysgol yn llunio cynllun gweithredu sy’n dangos sut y bydd yn mynd i’r afael â’r argymhellion.
Bydd Estyn yn monitro cynnydd yr ysgol tua 12-18 mis ar ôl cyhoeddi’r adroddiad hwn.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Yn dilyn adroddiad diweddar Estyn ar Ysgol Syr Hugh Owen, fel Awdurdod Addysg Lleol fe fyddwn yn cydweithio gyda’r ysgol er mwyn ymateb yn effeithiol i’r argymhellion a nodir yn yr adroddiad."