Dedfrydu dyn am esgeuluso 132 o anifeiliaid yn ei gartref
Mae dyn 39 oed wedi cael dedfryd o 12 wythnos o garchar wedi’i gohirio am 18 mis ar ôl i 132 o anifeiliaid oedd wedi’u hesgeuluso gael eu cymryd o’i gartref.
Roedd llygod, nadroedd, draenogiaid a chrwbanod ymhlith yr anifeiliaid a gafodd eu cymryd gan yr awdurdodau o gartref Christopher David Jones, o Gefn-y-bedd, Wrecsam.
Clywodd Llys Ynadon Wrecsam ddydd Mawrth bod yr anifeiliaid wedi dioddef “esgeulustod am gyfnod estynedig”.
Roedd rhai anifeiliaid roedd Jones yn cadw yn ei gartref wedi marw yno, yn ôl yr RSPCA.
Fe blediodd Jones yn euog i chwe throsedd lles anifeiliaid, a ddigwyddodd rhwng Ebrill ac Awst 2025, am fethu â sicrhau bod anghenion yr anifeiliaid yn cael eu bodloni.
Yn yr achos cyntaf, roedd 71 o lygod mawr, 22 neidr, 18 o lygod, saith cwningen, pedwar bochdew Tsieineiadd, tri chrwban, dau ddraenog pigmi Affricanaidd ac un ffuret wedi profi esgeulustod.
Roedd Jones hefyd yn euog o droseddau eraill yn ymwneud â methu ceisio cymorth gan filfeddyg ar ôl i beithon brenhinol ddioddef dolur ceg, na cheisio am gymorth pan roedd gan ddau beithon brenhinol broblemau niwrolegol.
Cafodd orchymyn i gyflawni cwrs adfer (rehabilitation), cafodd ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am bum blynedd, ac roedd yn rhaid iddo dalu £500 mewn costau.
Clywodd y llys bod Jones wedi dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl. Cafodd yr achos ei ohirio’n flaenorol er mwyn i asesiad iechyd meddwl gael ei gynnal.
Wrth ymateb i’r ddedfryd, dywedodd llefarydd ar ran elusen yr RSPCA: “Mae pob anifail yn haeddu cael ei drin gyda charedigrwydd a pharch, ac mae angen sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu cyflawni a’u bod yn derbyn gofal addas a thriniaeth gan filfeddyg pan fo’r angen.
“Mae’n drist iawn bod yna nifer o lygod mawr wedi gorfod cael eu difa oherwydd problemau anadlu. Fodd bynnag, roedd anifeiliaid eraill ynghlwm â’r achos hwn wedi cael eu hail-gartrefu'n llwyddiannus.”