Teyrngedau yn dilyn marwolaeth merch 18 oed o lid yr ymennydd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi yn dilyn marwolaeth merch 18 oed yng Nghaint, de Lloegr, o ganlyniad i lid yr ymennydd.
Mae tair ysgol yno wedi cadarnhau achosion o lid yr ymennydd, neu meningitis, ar ôl i achos o’r clefyd achosi marwolaeth dau fyfyriwr gyda nifer yn rhagor wedi eu cludo i’r ysbyty.
Un o’r rhai a fu farw oedd myfyrwraig blwyddyn 13 o’r enw Juliette, gafodd ei disgrifio gan ei phennaeth yn Ysgol Ramadeg Queen Elizabeth yn Faversham fel merch “anhygoel o garedig, meddylgar a deallus”.
Roedd y person arall a fu farw yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caint.
Y gred yw bod rhai o’r achosion sydd yn yr ysbyty wedi cael eu rhoi mewn coma.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) nos Lun eu bod yn parhau i ymchwilio i achosion o lid yr ymennydd, gyda 13 achos wedi'u nodi ers 13 Mawrth, gan gynnwys y ddwy farwolaeth.
Clwb nos
Galwodd yr asiantaeth ar unrhyw un oedd wedi bod i glwb nos Chemistry yng Nghaergaint ar Fawrth 5, 6 neu 7 i dderbyn meddyginiaeth fel "mesur gofalus".
Dywedodd perchennog y clwb wrth asiantaeth newyddion PA y byddai mwy na 2,000 o bobl wedi bod yn y clwb nos dros y dyddiadau dan sylw.
Mae UKHSA hefyd wedi cynghori 16,000 o staff a myfyrwyr Prifysgol Caint, lle mae gwrthfiotigau hefyd yn cael eu cynnig i'r rhai sydd eu hangen.
Cadarnhaodd Amelia McIlroy, pennaeth Ysgol Ramadeg Queen Elizabeth yn Faversham, fod un o'i disgyblion blwyddyn 13 wedi marw.
Dywedodd: “Gyda thristwch mawr yr ydym yn cadarnhau colli Juliette, aelod annwyl oedd yn cael ei thrysori gan gymuned ein hysgol.
“Roedd Juliette yn fyfyrwraig yn ein hysgol am saith mlynedd. Roedd hi'n hynod o garedig, meddylgar a deallus ac roedd hi wrth ei bodd â'n hysgol ac yn hapus iawn yma.
“Cofleidiodd Juliette bopeth oedd gan yr ysgol i'w gynnig gyda brwdfrydedd a llawenydd mawr ac roedd ei hiwmor a'i phositifrwydd yn swynol.
“Roedd hi'n wrandäwr gwirioneddol ofalgar a sylwgar, yn ffrind triw - a wrandawodd gyda chynhesrwydd, parch a diddordeb diffuant i'w chyfoedion ac i'n staff.
“Yn fyr, roedd hi'n ferch hyfryd - bydd ei gwên hardd, ei natur gariadus a'i synnwyr o hwyl yn cael eu colli'n fawr. Rydym i gyd wedi ein dryllio."
