Cyhuddo dau ddyn mewn cyswllt â chanu caneuon homoffobig yng ngêm Wrecsam a Chelsea
Cyhoeddodd Heddlu'r Gogledd fod tri dyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â chanu caneuon homoffobig yn ystod gêm Wrecsam a Chelsea ddydd Sadwrn .
Dywedodd y llu bod y tri wedi eu harestio ar ôl i ganeuon "homoffobig ac o natur wahaniaethol" gael eu canu yn y StōK Cae Ras adeg gêm Cwpan yr FA rhwng y ddau glwb ddydd Sadwrn.
Mae Sion Yaxley, 29 oed o Bwllglas, Rhuthun bellach wedi ei gyhuddo o ddefnyddio iaith fygythiol, neu ymddwyn mewn ffordd sy'n debygol o achosi aflonyddu, braw neu ofid.
Mae Joshua Jones, 33 oed o Weston Rhyn, Sir Amwythig wedi ei gyhuddo o ddefnyddio iaith fygythiol neu sarhaus, neu ymddwyn gyda'r bwriad o achosi ofn neu ysgogi trais anghyfreithlon.
Mae dyn arall a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â throsedd trefn gyhoeddus wedi cael rhybudd gan yr heddlu.
Ychwanegodd yr heddlu bod Marc Garcia, 49 oed o Merstham yn Surrey a James Dance, 31 oed o Hungerford, Gorllewin Berkshire wedi eu cyhuddo o fod â chyffur Dosbarth A yn eu meddiant.
Bydd y pedwar dyn yn ymddangos yn Llys Ynadon Wrecsam ar 13 Ebrill.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Mark Williams bod pob digwyddiad o ganu caneuon homoffobig yn cael eu cymryd o ddifrif.
"Mae canu caneuon homoffobig, hiliol neu wahaniaethol yn cael eu hystyried yn droseddau casineb.
"Rydym yn parhau i weithio gyda CPD Wrecsam i sicrhau bod cefnogwyr a'u teuluoedd sydd yn ymweld â'r StōK Cae Ras, a'r gymuned ehangach, yn teimlo'n ddiogel wrth wylio pêl-droed."
