Y Rhyl 1879 i wynebu Caernarfon yn rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru JD

Sgorio
CPD Caernarfon

Wedi i'r Fflint guro Dinas Bangor 1876 ddydd Sadwrn o 5-1 yn rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru JD, dyma gipolwg ar y rownd gyn-derfynol arall rhwng Y Rhyl 1879 a Chaernarfon ddydd Sul.

Y Rhyl 1879 (2) v Caernarfon (1) | Dydd Sul – 13:30
(Ffordd Llanelian, Bae Colwyn)

Mae Y Rhyl 1879 wedi cyrraedd y rownd gynderfynol am y tro cyntaf ers i’r tîm newydd gael ei ffurfio yn 2020, ar ôl i hen glwb Y Rhyl y cwpan ar bedwar achlysur.

Achosodd Y Rhyl sioc fwya’r rownd ddiwethaf wrth guro’r Barri o 2-1 a bydd tîm Paul Moore yn awyddus i ail-adrodd y gamp ddydd Sul, a threchu clwb arall o’r uwch gynghrair.

Ar ôl ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf mae Y Rhyl 1879 yn y 5ed safle yn eu tymor cyntaf yng Nghynghrair y Gogledd yn dilyn eu dyrchafiad i’r ail haen dros yr haf.

Mae gemau cwpan Y Rhyl wedi bod yn rhai agos y tymor yma, gyda’r Lilisgwynion yn ennill o un gôl yn unig yn y bedair rownd ddiwethaf.

Y daith hyd yma:

Y Rhyl 1879: Pwllheli (1-3), Brickfield (1-0), Cwmbrân (3-2), Porthmadog (1-2), Y Barri (2-1)

Caernarfon: Y Drenewydd (0-3), Penrhyncoch (4-0), Met Caerdydd (2-4), Bae Colwyn (4-1)

Dyw Caernarfon erioed wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru, ac felly bydd y Cofis yn benderfynol o gyflawni’r nod eleni a chodi’r tlws am y tro cyntaf yn eu hanes.

Fel y clwb uchaf ar ôl yn y gystadleuaeth, Caernarfon yw’r ffefrynnau i godi’r cwpan y tymor hwn, ond dyw’r Cofis heb ennill gêm oddi cartref yn 2026.

Wedi dweud hynny, bydd yr hyder yn uchel yng ngharfan Caernarfon ar ôl curo Bae Colwyn o 3-0 y penwythnos gyda Brad Young yn serennu drwy sgorio dwy gôl, ac hynny ar ôl sgorio’n y gêm flaenorol hefyd yn erbyn ei gyn-glwb, Y Seintiau Newydd.

Mae’r Cofis wedi codi’r safon yn eu gemau cwpan y tymor yma, gan sgorio pedair gôl yn eu tair gêm ddiwethaf yn y gystadleuaeth.

Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau glwb yma, a bydd y ddau dîm yn gobeithio creu hanes trwy gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.