Gareth yr Orangwtan i gyflwyno Noson Lawen

Gareth yr Oranguta gyda Rhys Meirion

Mae un o gyfresi teledu adloniant ysgafn hynaf Ewrop yn cyrraedd carreg filltir nodedig yn ei hanes - y tro cyntaf iddi gael ei chyflwyno gan orangwtan.

Fe fydd y Noson Lawen yn dychwelyd i S4C ar nos Sadwrn, Mawrth 14, gydag un o gymeriadau amlwg y sianel HANSH, Gareth yr Orangwtan yn cymryd yr awenau.

Mae'r Noson Lawen yn ail yn unig o ran ei hirhoedledd, i raglen adloniant ysgafn Brasil Programa Silvio Santos, sydd wedi cael ei darlledu'n barhaus ers 1963.

Mae'r mwnci direidus ac hoffus - Gareth Ulysses Llew Pongo i roi ei enw llawn - eisoes yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Hansh, platfform digidol S4C sydd wedi'i anelu at gynulleidfaoedd ifanc.

Ond am un noson yn unig, bydd Gareth yn camu ar un o lwyfannau teledu mwyaf eiconig Cymru, gan gyflwyno rhaglen adloniant yn ystod oriau brig S4C.

Bydd ei ymddangosiad yn cynnwys deuawd ddoniol gyda'r canwr clasurol opera Rhys Meirion, ac yn cyflwyno amrywiaeth o artistiaid gan gynnwys Meilyr Emrys (gynt o'r grŵp Vanta), Cordia, Tew Tenau, 50 Shêds o Lleucu Llwyd a’r gantores ifanc o Gaernarfon Alis Glyn.

Dywedodd cynhyrchydd Noson Lawen, Olwen Meredydd: "Mae Gareth wedi ymddangos ar y rhaglen o'r blaen ond dyma'r tro cyntaf iddo fentro ar ei ben ei hun fel y prif gyflwynydd.

"Roedd hi’n andros o hwyl gweithio gyda Gareth ar y rhaglen ac roedd ei ddeuawd o 'Benedictus' gyda Rhys Meirion yn ddoniol dros ben ond ar yr un pryd yn hynod safonol."

Yn y dyddiau cynnar roedd rhaglen Noson Lawen, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 40 oed yn 2022, yn cael ei recordio mewn ysguboriau fferm gyda'r artistiaid yn perfformio ar drelars amaethyddol a'r gynulleidfa yn eistedd ar fyrnau gwellt.

Ond erbyn hyn, mae'r rhaglen yn cael ei recordio mewn lleoliadau yn cynnwys theatrau a neuaddau ledled Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.