Safleoedd treftadaeth i groesawu ymwelwyr am ddim
Bydd mwy na 150 o safleoedd treftadaeth Cymru yn cynnig mynediad am ddim, digwyddiadau a theithiau tywys i ymwelwyr ar hyd a lled Cymru yn ystod mis Medi.
Mae’n rhan o gynllun ‘Drysau Agored’ sy’n cael ei ariannu a’i drefnu gan Cadw, gyda’r gobaith o annog Cymry ac ymwelwyr i ymweld â safleoedd llai adnabyddus yng Nghymru, gyda nifer ohonynt fel arfer ar gau i’r cyhoedd.
Bydd digwyddiadau mewn nifer o safleoedd hanesyddol, gan gynnwys Amgueddfa Cerrig Margam, Llyfrgell Dinbych a Chromen Hyfforddi Pen-bre.
Hefyd, bydd 18 safle Cadw yn rhan o'r dathliadau ar ddyddiadau penodol ym mis Medi.
Bydd saith o safleoedd Cadw, gan gynnwys dwy o gaerau canoloesol eiconig Cymru - Castell Biwmares yng ngogledd Cymru a Chastell Rhaglan yn ne Cymru, yn cynnig mynediad am ddim i’r cyhoedd.
‘Perlau cudd yn hanes Cymru’
Dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip : "Ar ran Cadw, rwy'n falch iawn o gyhoeddi y bydd Drysau Agored, cyfraniad blynyddol Cymru i Ddiwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd yn dychwelyd ym mis Medi am y tro cyntaf ers 2019.
"Mae Drysau Agored yn ymwneud ag annog pobl i archwilio’r perlau cudd yn hanes Cymru, a dyna pam mae'r rhaglen o ddigwyddiadau eleni yn cyflwyno cyfres mor unigryw o deithiau sy’n cynnig mynediad i bob cornel o rai o safleoedd treftadaeth llai adnabyddus y wlad.
"Ar ran yr holl bartneriaid dan sylw, rydym yn gobeithio y bydd y dathliad gwych, mis o hyd hwn o'r henebion ac adeiladau sy'n helpu i lunio Cymru yn annog mwy o bobl i ymweld â’r safleoedd hanesyddol a'r hanes cudd sydd ar garreg eu drws".