‘Cwbl glir’ nad oes modd cyfyngu tai newydd yng Ngwynedd i siaradwyr Cymraeg yn unig
Mae pwyllgor cynllunio wedi penderfynu peidio cyfyngu tai newydd mewn pentref yng Ngwynedd i siaradwyr Cymraeg yn unig.
Daw wedi e i un o swyddogion cynllunio Gwynedd ddatgan ei fod yn “gwbl glir” nad oes modd gwneud hynny.
Roedd Cyngor Gwynedd wedi derbyn y cais cynllunio gan gwmni Williams Homes (Bala) Ltd ar ran Grŵp Cynefin.
Roedd yn cynnwys codi hyd at 15 o gartrefi fforddiadwy mewn stad newydd ger Llys yr Eifl, yn Nhrefor.
Roedd cynghorau cymunedol Trefor a Llanaelhaearn wedi dweud y byddai’n cefnogi cais am ddatblygiad tai fforddiadwy newydd ar yr amod fod tenantiaid y cartrefi arfaethedig yn medru’r Gymraeg.
Roedd y cais wedi cael llawer o sylw yn y wasg, gan gynnwys y wasg Brydeinig gyda honiadau ei fod yn gwahaniaethu yn erbyn y di-Gymraeg.
Roedd y Daily Mail wedi dyfynnu un unigolyn yn dweud bod y “cam-wahaniaethu yn arwydd o’r hyn i ddod i’r mwyafrif Saesneg eu hiaith yng Nghymru”.
Cyn cyfarfod y pwyllgor cynllunio roedd y Cyngor yn dweud y byddai’r amod yn seiliedig ar “farn gyfreithiol” a dderbyniwyd gan Gomisiynydd yr Iaith, oedd yn datgan "na fyddai’n anghyfreithlon gwneud ‘medru’r Gymraeg’ yn amod gosod tai cymdeithasol".
'Gwahaniaethu'
Yn y cyfarfod dydd Llun fe benderfynodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd ganiatáu y cais.
Ond derbyniodd y pwyllgor gyngor gan swyddogion cynllunio y byddai gosod unrhyw amod iaith yn anghyfreithlon.
Dywedodd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd y sir, Gareth Jones, bod cynghorwyr “wedi gofyn y cwestiwn am amodau ieithyddol yng nghyd-destun cynllunio, a bod rhaid bod yn gwbl glir”.
“Mae polisi cynllunio Cymru yn cyfarch y mater yma’n eitha’ penodol,” meddai.
"Ni ddylai polisïau a phenderfyniadau gyflwyno unrhyw elfen o wahaniaethu rhwng unigolion yn seiliedig ar eu gallu ieithyddol.
"Ac ni ddylsant geisio rheoli daliadaeth tai ar sail ieithyddol."
Penderfynodd cynghorwyr gefnogi o naw pleidlais i un, gydag un yn ymatal.
Llun: Un o swyddogion cynllunio'r sir, Gareth Jones, a'r cynllun tai
