Newyddion S4C

Trydydd dos o frechlyn Covid-19 i bobl gydag imiwnedd gwan

01/09/2021
Gwledydd Ewrop yn ailddechrau defnyddio AstraZeneca.
Gwledydd Ewrop yn ailddechrau defnyddio AstraZeneca.

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi cynghori Llywodraeth Cymru i gynnig trydydd dos o frechlyn Covid-19 i unigolion, 12 oed neu hŷn, oedd yn imiwnoataliedig iawn ar adeg eu dos cyntaf, ail neu’r ddau frechlyn.  

Mae pryderon na fydd rhai unigolion sy’n ddifrifol imiwnoataliedig oherwydd cyflyrau iechyd, neu sydd yng nghanol triniaethau meddygol penodol yn cyrraedd imiwnedd llawn ar ôl y ddwy frechiad Covid-19. 

Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi croeswu’r cyngor: “Mae cyngor y JCVI yn manylu ar y grwpiau a fydd yn gymwys a bydd ein GIG yng Nghymru yn gweithio'n gyflym i nodi unigolion cymwys y bydd eu Byrddau Iechyd yn cysylltu â nhw. 

“Bydd y penderfyniad ar amseriad y trydydd dos yn bwysig i rai cleifion, a bydd yn cael ei benderfynu gan eu clinigwyr arbenigol. Bydd eu apwyntiad ar adeg briodol yn ystod eu cynllun triniaeth.

“Y brechlyn Covid-19 yw'r ffordd orau o atal salwch difrifol a lledaeniad y feirws. Anogir unrhyw un nad yw wedi cael eu brechlyn eto i fanteisio ar eu cynnig dos sylfaenol cyn inni symud i ddechrau'r ymgyrch atgyfnerthu.”

Bydd gwaith yn dechrau ar unwaith i nodi a chynllunio pa gleifion a ddylai gael eu brechu. Ni fydd angen cysylltu â'ch bwrdd iechyd na'ch clinigwyr i wirio os ydych yn gymwys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.