Llafur yn addo 'trawsnewid' gofal iechyd meddwl os yn ennill etholiad y Senedd

Eluned Morgan (PA)

Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wedi addo “trawsnewid” gofal iechyd meddwl yng Nghymru, petai Llafur yn ennill etholiad y Senedd fis Mai.

Wrth lansio ymgyrch etholiadol Llafur yng Nghasnewydd ddydd Llun, mae disgwyl i’r Prif Weinidog osod ei gweledigaeth am “ddyfodol tecach i Gymru”.

Ar ôl bod mewn grym yng Nghymru ers cychwyn datganoli yn 1999, mae polau piniwn yn awgrymu na fydd y blaid yn llywodraethu y tu hwnt i 7 Mai.

Mae’r arolygon diweddaraf yn rhoi Plaid Cymru ar y blaen, gyda Reform yn ail, a Llafur yn gydradd pumed gyda’r Ceidwadwyr, gyda chyfradd o 10% o’r bleidlais.

Fe fydd Ms Morgan yn gosod blaenoriaethau’r blaid ddydd Llun, ac yn dweud y byddai Llafur yn cynnig “difrifoldeb” wrth lywodraethu. 

“Dyma neges i’n cystadleuwyr yn yr etholiad hwn. Allwch chi ddim datrys amseroedd aros gyda hashtag. Allwch chi ddim tyfu cyflogau ar TikTok. Allwch chi ddim adeiladu ysbyty gyda phwyllgor.

“Mae angen cynllun. Mae angen blaenoriaethau. Mae angen gweithredu. Dyna mae Llafur Cymru yn ei gynnig.”

Polisïau

Fel rhan o’r lansiad, fe fydd y blaid yn cynnig gwasanaeth gofal iechyd meddwl fydd ar gael i bawb ar yr un diwrnod, pe byddai ei angen.

Mae’r blaid Lafur yn dweud mai Cymru fyddai’r wlad gyntaf i gyflwyno system o’r fath, a fyddai’n “adeiladu” ar lwyddiant gwasanaeth 111 gwasgu 2.

Hefyd ymhlith y polisïau fydd yn cael eu cynnig bydd gosod cap o £2 ar docynnau bws a chyflwyno 100 o lwybrau bws newydd.

Fe fydd bil dŵr glan newydd hefyd yn cael ei gyflwyno, a chynllun i wella mynediad at ysbytai, sydd yn cynnwys teithio cyhoeddus a pharcio.

Bydd y blaid hefyd yn gosod gweledigaeth o wneud Cymru yn annibynnol o safbwynt egni, wrth sicrhau prosiectau egni adnewyddadwy newydd a chreu swyddi newydd.

“Nid yw tegwch heddiw yn golygu amynedd parhaol.

“Mae’n rhaid i degwch heddiw ddangos cynnydd y gallwch ei weld, cynnydd y gallwch ei fesur, cynnydd y gallwch ei deimlo.

“Dyna’r addewid rwy’n ei wneud heddiw. Dyna’r addewid o bennod newydd i Gymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.